ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

Roedd cyfleusterau megis Campws y Bae, yn ogystal â’r cyfle i dderbyn addysg gan Brifysgol sydd wedi derbyn nifer o wobrau, megis graddau boddhad, Fframwaith Addysgu Aur, safon ymchwil a rhagolygon graddedigion, yn gatalydd mawr yn fy mhenderfyniad i ddewis Prifysgol Abertawe. Penderfynais astudio elfen o fy nghwrs drwy gyfrwng y Gymraeg drwy ymgymryd â sesiynau ychwanegol gyda darlithydd Cymraeg oherwydd roedd y syniad o newid o addysg gwbl Gymraeg drwy gydol fy amser yn yr ysgol, i gwrs gradd cyfrwng Saesneg yn y Brifysgol, yn un brawychus i mi. Bellach, rwyf yn gallu datblygu dealltwriaeth o’r pynciau mewn modd naturiol trwy fy iaith gyntaf. Hefyd, manteisiais ar y cyfle i ddefnyddio fy hawliau er mwyn cael tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg. Rwy’n aelod o’r Gymdeithas Gymraeg, lle rwyf yn gallu cymdeithasu yn fy mamiaith, gwneud ffrindiau newydd o ardaloedd eraill o Gymru, yn ogystal â derbyn cyfleoedd i fynychu llu o weithgareddau sydd yn cael eu trefnu gan bwyllgor y GymGym, fel crôl tafarnau ond yn bennaf oll y cyfle i fynychu gweithgareddau Rhyng-golegol. Mae’n gyfle gwych i fyfyrwyr Cymraeg o bob prifysgol yng Nghymru ddod at ei gilydd am benwythnos i gymdeithasu a dod i ‘nabod pobl newydd, tra hefyd cwrdd â hen ffrindiau sydd bellach yn fyfyrwyr yn Aberystwyth, Bangor neu Gaerdydd.

I ddysgu mwy am ein storïau myfyrwyr, gweler: abertawe.ac.uk/astudio/ein-storiau-myfyrwyr BSc RHEOLI BUSNES

155

Made with FlippingBook Annual report maker