YSGOL FEDDYGAETH (Complete University Guide 2022) 1 YN Y DU AF
BIOCEMEG FEDDYGOL CAMPWS PARC SINGLETON
Mae Biocemeg Feddygol wrth wraidd meddygaeth fodern. Mae’n rhan hanfodol o’n dealltwriaeth o achosion ac effeithiau clefydau a’r ffordd rydyn yn datblygu triniaethau newydd. Byddi di’n dysgu sut mae celloedd yn gweithio ar lefelau is-gellog a moleciwlaidd, gan olygu y byddi di’n ennill dealltwriaeth drylwyr o swyddogaeth biocemegol organeddau byw, o facteria i anifeiliaid a bodau dynol.
Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael
Byddi di’n elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf, gan gynnwys offer biodadansoddol, offer dadansoddi DNA a phrotein, a dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog. Fe fyddi di’n datblygu sgiliau rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith. Rhaglen MSci Mae’r radd meistr israddedig integredig hon yn ychwanegu hyfforddiant arbenigol ychwanegol mewn ystod eang o dechnegau labordy ac yn datblygu prosiect ymchwil annibynnol estynedig uwch i'r rhaglen 3 blynedd BSc Biocemeg Feddygol. Mae'r cwrs hwn yn rhoi cymhwyster lefel meistr i ti wrth dalu ffioedd dysgu israddedig ac mae'n ddelfrydol os wyt ti’n cynllunio ar yrfa mewn ymchwil. FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i Fiocemeg
Blwyddyn 2 • Biocemeg Glinigol a Ffisioleg • Gwyddor Meddygol mewn Ymarfer • Imiwnoleg Ddynol • Technegau ar gyfer Bioleg Moleciwlaidd Blwyddyn 3 • Imiwnopatholeg Ddynol • Prosiect Ymchwil Annibynnol • Tocsicoleg Geneteg • Trosglwyddiad Philennau ac Ynni Blwyddyn 4 (MSci yn unig) • Cyfathrebu Gwyddoniaeth • Traethawd Hir Prosiect Ymchwil Annibynnol Uwch
CYNNIG NODWEDDIADOL: BSc: AAB-BBB MSci: AAB (gan gynnwys Cemeg ac un pwnc STEM arall, Bioleg fel arfer)
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †
BSc Anrhydedd Sengl ▲ Biocemeg Feddygol ♦ Biocemeg Feddygol (gyda Blwyddyn Sylfaen)
MSci Anrhydedd Sengl ♦ Biocemeg Feddygol Biocemeg – gweler tudalen 75 ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
Llwybrau i Feddygaeth
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Cynhyrchion Fferyllol • Labordai Meddygol • Proffesiynau Iechyd (ar ôl astudiaeth bellach) e.e. Meddyg, Cymdeithion Meddygol, Deintydd neu Filfeddyg. • Ymchwil Canser
Darllen ein canllaw pwnc yma:
• Ffisioleg Ddynol • Sgiliau Biocemeg • Ynni a Metaboledd
LLWYBR MEDDYGAETH I RADDEDIGION: Mae’r radd hon yn rhan o’n
rhaglen Llwybrau i Feddygaeth. Cyn belled â dy fod yn bodloni’r gofynion mynediad, ac wedi dilyn y modiwl Llwybr i Feddygaeth gallwn dy warantu y cei gyfweliad ar gyfer ein cwrs MBBCh Meddygaeth i Raddedigion.
76
Made with FlippingBook Annual report maker