ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

AMGYLCHEDD YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014) 1 YN Y DU AF

BIOCEMEG CAMPWS PARC SINGLETON

Mae Biocemeg yn hanfodol wrth astudio a thrin clefydau, wrth ddatblygu cynhyrchion fferyllol, ac wrth roi sylw i’r perthnasau cymhleth rhwng ein hamgylchedd. Byddi di’n dysgu am y prosesau cemegol sy’n digwydd o fewn organeddau byw ac yn astudio sut mae celloedd yn gweithio ar lefelau is-gellog a moleciwlaidd ac yn ennill dealltwriaeth drylwyr o swyddogaeth fiocemegol organeddau byw, o facteria i blanhigion, anifeiliaid a bodau dynol.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-64 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Byddi di’n elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf, gan gynnwys offer biodadansoddol, offer dadansoddi DNA a phrotein, a dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog. Fe fyddi di’n datblygu sgiliau rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith. Mae cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol yn rhoi’r hyblygrwydd i ti deilwra dy radd i gyd-fynd â dy ddiddordebau penodol, dy amcanion o ran gyrfa, a dy gynlluniau ar gyfer astudio pellach. Mae hefyd gradd gydanrhydedd gyda Geneteg ar gael. Rhaglen MSci: Mae’r radd meistr israddedig integredig uwch yn ychwanegu hyfforddiant arbenigol ychwanegol mewn ystod eang o dechnegau labordy ac yn datblygu prosiect ymchwil annibynnol estynedig uwch i'r rhaglen 3 blynedd BSc Biocemeg. Mae'r cwrs hwn yn rhoi cymhwyster lefel meistr i ti wrth dalu ffioedd dysgu israddedig ac mae'n ddelfrydol os wyt ti’n cynllunio ar yrfa mewn ymchwil. FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Bioleg Celloedd Ewcaryotig • Cemeg ar gyfer Biocemegwyr • Cemeg Organig • Cyflwyniad i Fiocemeg • Microbioleg

Blwyddyn 2 • Biocemeg Glinigol a Ffisioleg • Metabolaeth Uwch • Rheoliad Metabolaidd: Ensymau a Throsglwyddiad Signalau • Technegau mewn Bioleg Foleciwlaidd • Ystadegau Biolegol Blwyddyn 3 • Asidau Niwcleig • Biowybodeg • Pilenni a Throsglwyddo Ynni • Prosiect Ymchwil Annibynnol • Ymchwil Feintiol Ymarferol Blwyddyn 4 (MSci yn unig) • Cyfathrebu Gwyddoniaeth • Traethawd Hir Prosiect Ymchwil Annibynnol Uwch

CYNNIG NODWEDDIADOL: BSc: AAB-BBB MSci: AAB (gan gynnwys Cemeg ac un pwnc STEM arall, Bioleg fel arfer)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Biocemeg ♦ Biocemeg (gyda Blwyddyn Sylfaen) BSc Cydanrhydedd Biocemeg a ▲ Geneteg ♦ Geneteg (gyda Blwyddyn Sylfaen) MSci Anrhydedd Sengl ♦ Biocemeg MSci Cydanrhydedd Biocemeg a ♦ Geneteg Biocemeg Feddygol – gweler tudalen 76

Darllen ein canllaw pwnc yma:

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Amaethyddiaeth • Biodanwyddau

• Cemeg Ddiwydiannol • Cynhyrchion Fferyllol • Gwyddorau Fforensig • Milfeddygaeth

75

Made with FlippingBook Annual report maker