ATHRONIAETH, GWLEIDYDDIAETH AC ECONOMEG CAMPWS PARC SINGLETON
Ar hyn o bryd, mae Blwyddyn Sylfaen mewn Gwleidyddiaeth yn rhoi mynediad i BA mewn Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg
Abertawe yw’r unig Brifysgol yng Nghymru, ac un o’r ychydig brifysgolion yn y DU sy’n cynnig Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg (AGE) – wedi’i hystyried ers tro fel paratoad delfrydol ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd mewn bywyd cyhoeddus. Drwy ymgysylltu ag athroniaeth, gwleidyddiaeth ac economeg, byddi di'n meithrin dealltwriaeth unigryw o faterion cymdeithasol cyfoes, fel cyfiawnder, grym, cydraddoldeb a hunaniaeth.
Cyfleoedd Byd-eang ar gael †
CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †
Mae’r cynllun gradd Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg yn cynnwys materion craidd yn y tri phwnc, ac mae pob un yn darparu set sgiliau amlwg. Fodd bynnag, mae’r rhaglen wedi’i strwythuro er mwyn i ti allu arbenigo yn y maes/ meysydd pwnc sydd o’r diddordeb mwyaf i ti. Mae ein rhaglen hefyd yn archwilio croestoriadau’r tri phwnc, er enghraifft, astudiaethau athronyddol o gyfiawnder economaidd, ac astudiaethau gwleidyddol o ddatblygiad economaidd a chymdeithasol. Byddi di hefyd yn gallu astudio, ymhlith pethau eraill, athroniaeth foesol a gwleidyddol, hanes syniadaeth wleidyddol, hanes economaidd, polisi cyhoeddus a gwleidyddiaeth Prydain, globaleiddio, micro-economeg a macro-economeg, econometreg, ac economeg amgylcheddol ac economeg adnoddau. Mae’r modiwl unigryw 'Senedd Cymru' yn cynnwys interniaeth cystadleuol wedi’i goruchwylio gydag aelod o Senedd Cymru gan dy alluogi ti i ddysgu am lunio polisïau yng Nghymru, yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol.
FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Athroniaeth Wleidyddol • Byw'n Dda a Gwneud yn Dda - Cyflwyniad i Foeseg • Egwyddorion Macro-economeg • Egwyddorion Micro-economeg • Technegau Mathemategol ar gyfer Economeg Blwyddyn 2 • Athroniaeth Meddwl ac Emosiwn • Globaleiddio • Hanes Syniadaeth Wleidyddol • Macro-economeg Canolradd • Micro-economeg Canolradd Blwyddyn 3 • Cyfalafiaeth a Chyfiawnder: Anghydraddoldeb, Pŵer a Ffyniant mewn Economïau Cyfoes • Gwleidyddiaeth a Datblygu Rhyngwladol • Prosiect Astudio Annibynnol Economeg
BA Anrhydedd Sengl ▲ Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg ♦ Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ Gwleidyddiaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen)
▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Busnes • C yfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus • Gwasanaethau Cyhoeddus • Llywodraeth a Gwleidyddiaeth • Sefydliadau Dyngarol • Y Gyfraith
• Senedd Cymru • Traethawd Hir
74
Made with FlippingBook Annual report maker