ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

ATHRONIAETH CAMPWS PARC SINGLETON

Mae ein gradd mewn Athroniaeth yn archwilio hanfod bod yn ddynol, sut dylem fyw a natur realiti ei hun. Mae'n ymdrin â'r materion hyn o amrywiaeth o safbwyntiau hanesyddol a chyfoes. Mae ganddi bwyslais cryf ar yr agwedd ymarferol, sy'n annog myfyrwyr i ddeall, nid yn unig y byd o'u cwmpas, ond hefyd i ystyried sut i'w newid er gwell.

Cyfleoedd Byd-eang ar gael †

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BA Anrhydedd Sengl ▲ Athroniaeth ♦ Athroniaeth (gyda Blwyddyn Dramor)

Fel myfyriwr Athroniaeth, byddi di’n archwilio cwestiynau sylfaenol ynghylch gwybodaeth, realiti, gwirionedd, moesoldeb, gwleidyddiaeth, natur ddynol a rhesymeg. Fe fyddi di’n dysgu am feddylwyr a damcaniaethau o fyd Groeg hynafol hyd at heddiw. Mae rhaglen y radd yn annog myfyrwyr i gymhwyso syniadau athronyddol i faterion a thrafodaethau moesol, cymdeithasol a gwleidyddol cyfoes, gan ddangos pwysigrwydd athroniaeth i'n bywydau beunyddiol a chymdeithas yn gyffredinol. Byddi hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol ac yn agor y drws i amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Byw'n Dda a Gwneud yn Dda - Cyflwyniad i Foeseg • Cyflwyniad i Athroniaeth Hynafol a Rhethreg • Darllen Gweithiau Athroniaeth Fawr • Materion Sylfaenol mewn Athroniaeth • Rhesymu Beirniadol Blwyddyn 2 • Athroniaeth y Meddwl ac Emosiwn • Athroniaeth a'r Oleuedigaeth • Dadleuon Moesol Cyfoes • Hanes Syniadaeth Wleidyddol • Rhyddid, Angst a'r Hunan Ymgorfforedig Blwyddyn 3 • Athroniaeth a Llenyddiaeth • Athroniaeth, Iechyd Meddwl a Salwch • Dyfodol Digidol • Penderfyniad a Chyfrifoldeb: Y Rhagfynegiad Trasig • Traethawd Hir

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Addysg • Busnes • Cyllid • Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau • Llywodraeth a Gwleidyddiaeth • Marchnata

73

Made with FlippingBook Annual report maker