RHAGOLYGON GRADDEDIGION (Times Good University Guide 2022) 15 UCHAF YN Y DU HANES
ASTUDIAETHAU'R OESOEDD CANOL CAMPWS PARC SINGLETON
Mae Astudiaethau'r Oesoedd Canol yn edrych ar bron 1,000 o flynyddoedd o hanes o safbwynt llenyddiaeth, athroniaeth, cyfraith, crefydd, gwleidyddiaeth a gwrthdaro. Mae'r dull rhyngddisgyblaethol hwn yn dy alluogi i ymroi'n llwyr i astudio'r cyfnod dynamig hwn, wrth i ti ddatblygu sgiliau ymchwilio a dadansoddi a dysgu sut i gyflwyno dy syniadau yn effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael †
Mae ein cyrsiau Astudiaethau'r Oesoedd Canol yn dy alluogi i astudio'r Oesoedd Canol mewn ffordd sy'n cyfuno gwahanol ddulliau methodolegol a beirniadol. Gelli astudio themâu a phynciau gan gynnwys: symud o hanes Diwedd yr Oesoedd Cynnar i Ddechrau'r Canol Oesoedd, y croesgadau, llenyddiaeth Lloegr Eingl-Sacsonaidd, tirweddau Canoloesol, Chaucer, ac angenfilod mewn llenyddiaeth ganoloesol. Gelli hefyd astudio: modiwlau Hanes, Hanes yr Henfyd, Gwareiddiad Clasurol a Llenyddiaeth Saesneg.
FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Creu Hanes • Ewrop Ganoloesol: Cyflwyniad • Llenyddiaeth a Chymdeithas yn Ewrop Ganoloesol Blwyddyn 2 • Archwilio'r Siambr Waedlyd: Canoloesol i Ôl-fodern • Cyfarfyddiadau Canoloesol • Etifeddion Rhufain: Creu’r Byd Cristionogol, Bysantiwm, ac Islam ar Ddechrau’r Oesoedd Canol 400-800 • Prydain yn yr Oesoedd Canol Cynnar: Caethweision, Dreigiau, Breninesau a Llychlynwyr • Y Croesgadau a Gwneud Bedydd Lladin, 1050-1300 • Ymarfer Hanes Blwyddyn 3 • Addoli, Duwioldeb a Grym: Y Groesgad Gyntaf a Bydau Cred Ladinaidd, Bysantiaeth a’r Dwyrain Agos Islamaidd • Brenhiniaeth: Yr Henfyd a Chanoloesol • Chaucer • Gosod Hanes: Mapio'r Gorffennol Hanesyddol yn Ddigidol • Hanesion yr Ymerodraeth • Teyrnasiad y Brenin Ioan 1199- 1216: Camlywodraethu a Magna Carta
CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Addysgu • Archifwyr Hanesyddol • Treftadaeth a Thwristiaeth • Y Gwasanaeth Sifil • Y Gyfraith ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs BA Anrhydedd Sengl ▲ Astudiaethau'r Oesoedd Canol ♦ Astudiaethau'r Oesoedd Canol (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ Astudiaethau'r Oesoedd Canol (gyda Blwyddyn Sylfaen)
72
Made with FlippingBook Annual report maker