ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

CAMPWS PARC SINGLETON ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD CYNNAR GYDA STATWS YMARFERYDD Y BLYNYDDOEDD CYNNAR

BODDHAD CWRS (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2021) 82 %

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod gweithlu hynod fedrus yn y Blynyddoedd Cynnar yn chwarae rôl hollbwysig wrth helpu i feithrin dysgu a datblygiad ein plant, gan eu hannog i ddatblygu'r sgiliau y bydd eu hangen arnynt i wireddu eu potensial llawn yn eu bywydau. Mae'r radd mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar (EYPS), sydd wedi'i hachredu gan Ofal Cymdeithasol Cymru, yn elfen bwysig o'r weledigaeth hon gan ei bod yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu â babanod, plant bach, plant ifanc a'u teuluoedd, gan gynnwys cysylltiadau â Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol gofynnol drwy 700 o oriau ar leoliad gwaith dros dair blynedd y rhaglen.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

BA Anrhydedd Sengl ▲  Astudiaethau Plentyndod

Mae’r gydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd y Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru yn golygu ei bod hi'n amser allweddol i ddarparu addysg a hyfforddiant penodol i'r rhai sydd am weithio gyda babanod, plant bach a phlant ifanc mewn rôl broffesiynol. Mae'r radd Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar wedi'i gwreiddio mewn cyd-destun Cymreig er mwyn sicrhau bod materion sy'n hollbwysig i blant a theuluoedd Cymru'n cael eu hystyried ym mhob modiwl a addysgir, wedi'i ategu gan ddarlithoedd sy'n seiliedig ar ymchwil a 700 o oriau ar leoliad gwaith mewn ysgolion cynradd a chanolfannau plentyndod cynnar yng Nghymru. Mae athroniaeth addysg blynyddoedd cynnar wrth wraidd y radd, lle mae'r plentyn yn ganolog i'r materion cymdeithasol, ac mae'r myfyrwyr yn dysgu am y ffyrdd gorau o gefnogi dysgu plant drwy ddilyn eu diddordebau er mwyn cefnogi sgiliau dysgu gydol oes. Mae'r cymhwyster hwn yn golygu y bydd ein myfyrwyr sy'n graddio yn hollol gymwysedig i ymuno â'r gweithlu ar unwaith mewn amrywiaeth o leoliadau plentyndod cynnar.

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar ♦  Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (gyda Blwyddyn Sylfaen) ♦  Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (gyda Blwyddyn Dramor)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Addysg mewn Gwledydd Eraill • Adeiledd Cymdeithasol Plentyndod • Archwilio Creadigrwydd a Meddwl yn Feirniadol • Hawliau Diogelwch a Lles Plentyndod Cynnar Blwyddyn 2 • Addysgeg ar Waith • Diwylliant ac Iaith Plant • Chwarae yn Ystod y Blynyddoedd Cynnar • Ymchwil gyda Phlant, Teuluoedd ac Ymarferwyr Blwyddyn 3 • Arweinyddiaeth a Rheolaeth • Cofnodau Pontio yn y Blynyddoedd Cynnar • Traethawd Hir (ar draws Semestrau A a B) • Ymarfer Myfyriol Proffesiynol

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Gall myfyrwyr sy'n cwblhau'r radd fynd ymlaen i astudiaeth bellach neu gymhwyso fel: • Athro Anghenion Arbennig • Athro Ysgolion Cynradd • Athro’r Blynyddoedd Cynnar • Gweithiwr Llywodraeth Cymru • Gweithiwr Cymdeithasol • Therapydd Chwarae

Beth yw’r prif wahaniaeth rhwng y cwrs gradd Astudiaethau Plentyndod Cynnar BA (Anrh.) a’r cwrs gradd Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd yn y Blynyddoedd Cynnar (EYPS)? Mae’r rhaglen yn rhannu modiwlau cyffredin sy’n caniatáu i ti deilwra dy nodau gyrfa’r dyfodol wrth ddatblygu dy ddiddordebau unigol, a chael cyfle i ddilyn lleoliadau gwaith; fodd bynnag, mae’r cwrs gradd Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd yn y Blynyddoedd Cynnar (EYPS) yn cynnwys mwy o brofiad mewn lleoliadau gwaith (700 awr ar leoliad gwaith). Ar y cwrs hwn, mae myfyrwyr yn treulio 700 awr ar leoliad gwaith mewn lleoliadau plentyndod cynnar.

71

Made with FlippingBook Annual report maker