ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD CYNNAR CAMPWS PARC SINGLETON
Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael
Mae'r cwrs gradd cyffrous hwn yn cynnig cyfleoedd i ddysgu am fabanod, plant bach a phlant ifanc trwy ddarparu'r wybodaeth ddamcaniaethol ac athronyddol, y cyfleoedd ymchwil a phrofiadau ymarferol mewn canolfannau plant megis; Dechrau'n Deg a dosbarthiadau'r Cyfnod Sylfaen. Mae dull dysgu'r cwrs yn seiliedig ar hawliau plant a dysgu holistaidd, ac mae ein haddysgu yn cael ei ategu gan ein hymchwil drylwyr.
Mae gan Astudiaethau Plentyndod Cynnar broffil uchel yng Nghymru, ar lefel llywodraeth y DU ac mewn sefydliadau rhyngwladol. Mae'r radd hon wedi mabwysiadu dull dysgu diwylliannol-gymdeithasol sy'n seiliedig ar hawliau plant a dysgu cyfannol mewn cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol, y cyfan wedi'i ategu gan ein hymchwil drylwyr. Mae gwreiddiau'r cwrs yng Nghymru a byddi’n ymdrin â materion sy'n ganolog i blant a theuluoedd yng Nghymru ym mhob modiwl. Byddi hefyd yn meithrin dealltwriaeth ryngwladol o arferion y blynyddoedd cynnar ledled y byd ac yn ystyried materion cymdeithasol a gwleidyddol, yn ogystal â theori ac athroniaeth.
FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Addysg mewn Gwledydd Eraill • Adeiledd Cymdeithasol Plentyndod • Archwilio Creadigrwydd a Meddwl yn Feirniadol • Hawliau, Diogelwch a Lles Plentyndod Cynnar Blwyddyn 2 • Addysg Ddigidol: Addysgeg ac Ymarfer • Diwylliant ac Iaith Plant
CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †
BA Anrhydedd Sengl ▲ Astudiaethau Plentyndod Cynnar ♦ Astudiaethau Plentyndod Cynnar (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ Astudiaethau Plentyndod Cynnar (gyda Blwyddyn Sylfaen)
▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrss
• Chwarae yn Ystod y Blynyddoedd Cynnar • Hawliau mewn Ymarfer Blynyddoedd Cynnar Blwyddyn 3 • Arweinyddiaeth a Rheolaeth • Cofnodau Pontio yn y Blynyddoedd Cynnar • Traethawd Hir (ar draws Semestrau A a B) • Ymarfer Myfyriol Proffesiynol
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Gall myfyrwyr sy'n cwblhau'r radd fynd ymlaen i astudiaeth bellach neu gymhwyso fel: • Athro Anghenion Arbennig • Athro Ysgolion Cynradd • Athro’r Blynyddoedd Cynnar • Gweithiwr Llywodraeth Cymru • Gweithiwr Cymdeithasol • Therapydd Chwarae
70
Made with FlippingBook Annual report maker