ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

PROFIAD MYFYRWYR (Times Good University Guide 2022 YN Y DU 3 YDD Y CLASURON A HANES YR HENFYD

CAMPWS PARC SINGLETON ASTUDIAETHAU CLASUROL

Mae Astudiaethau Clasurol yn canolbwyntio ar lenyddiaeth Roeg a Rhufeinig yr hen fyd, ynghyd â'r diwylliannau a'i greodd. Wrth astudio'r radd hon, byddi di'n cael darllen pob math o destunau wedi'u cyfieithu o safleoedd hynafol Môr y Canoldir a datblygu dealltwriaeth o ddiwylliant Groegaidd a Rhufeinig o'r cyfnod hynafol i gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig a'r tu hwnt. Byddi di'n archwilio straeon a mytholeg Gwlad Groeg a Rhufain ac yn dysgu sut i ddadansoddi testunau’n fanwl gyda llygad craff am fanylion. Gelli di archwilio testunau cyfarwydd, megis epigau a thrasiedïau, yn ogystal â genres o’r hen fyd sy’n cael eu hanwybyddu’n aml, gan gynnwys nofelau a dychan.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Fel rhan o'r radd anrhydedd sengl mewn Astudiaethau Clasurol, gelli di hefyd ddewis dilyn un o chwe llwybr mwy penodol: Groeg, Lladin, y Clasuron (Groeg a Lladin), Eifftoleg, Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth. Nod y radd hon yw rhoi'r sgiliau i ti wella dy gyflogadwyedd yn y dyfodol mewn ystod eang o yrfaoedd, drwy ddatblygu dy ddiddordeb a dy angerdd am yr hen fyd a phob agwedd arno, yn enwedig y testunau sydd wedi goroesi am gymaint o amser. Bydd yr ymdeimlad am greadigrwydd awduron yr hen fyd a’r ddawn i ddadansoddi’n fanwl rydyn yn gobeithio eu hysbrydoli ynot ti yn dy osod ben ac ysgwyddau uwchlaw'r gystadleuaeth yn llygaid cyflogwyr. Yn ystod dy radd Astudiaethau Clasurol, yn ein cymuned agos, bydd gen ti fentor academaidd o blith y staff addysgu a fydd ar gael i roi cymorth academaidd i ti. Mae’r Gymdeithas Astudiaethau Hynafol a'n Cymdeithas Eifftoleg yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol, gan gynnwys teithiau i ymweld ag amgueddfeydd.

FEL ARFERMAE MODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i Athroniaeth Hynafol a Rhethreg • Dechrau Iaith Ladin I • Dechrau Iaith Roeg I • Metamorffos yr Ovid. Trawsnewidiadau Mytholeg • O Dduwiau ac Arwyr - Mytholeg Gwlad Groeg Blwyddyn 2 • Darllen Gwareiddiad Clasurol • Dychan Rhufeinig: Rhefru a Thynnu Coes • Nofel y Comic Rhufeinig: Ysgarthiad a Sacrament • Penderfyniad a Chyfrifoldeb: Y Rhagfynegiad Trasig • Rhyw yn y Byd Rhufeinig

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BA Anrhydedd Sengl ▲ Astudiaethau Clasurol ♦ Astudiaethau Clasurol

(gyda Blwyddyn Dramor)

♦ Astudiaethau Clasurol

(gyda Blwyddyn Sylfaen)

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Addysg • Archifau • Amgueddfa a Threftadaeth • Busnes • Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus • Marchnata

Blwyddyn 3 • Canu Serch Rufeinig • Gweriniaeth Plato

• Lleoliad Gwaith Ysgolion: Addysgu Hanes Hynafol ac Ieithoedd Hynafol • Rhamant Gwlad Groeg: Môr, Haul a Rhyw • Traethawd Hir Y Clasuron, Hanes yr Henfyd, Eifftoleg

69

Made with FlippingBook Annual report maker