ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

CAMPWS Y BAE & CAMPWS PARC SINGLETON ARWEINYDDIAETH AR GYFER HERIAU BYD-EANG

Nod y rhaglen yw datblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, drwy roi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r dulliau deallusol iddynt er mwyn gallu sbarduno newid a gwneud gwahaniaeth yn y byd. Mae'r rhaglen wedi'i strwythuro ar sail thema heriau sy'n archwilio materion hollbwysig megis newid yn yr hinsawdd, datblygu cynaliadwy, mudo, terfysgaeth, anghydraddoldeb a thlodi, a sut maent yn effeithio ar ein byd.

Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael

CYNNIG NODWEDDIADOL: ABB

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

Bydd y radd hon yn rhoi gwybodaeth i ti mewn cyfuniad o ddisgyblaethau; gwleidyddiaeth, athroniaeth, astudiaethau datblygu, polisi cyhoeddus, y gyfraith, rheoli a'r cyfryngau, sydd wedi'u cyfuno er mwyn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i ti o faterion byd-eang allweddol, prosesau penderfynu a'r dulliau ar gyfer archwilio a hyrwyddo atebion posibl ar gyfer newid. Byddi di'n archwilio problemau a heriau cymdeithasol sy'n croesi ffiniau gwledydd, gan feithrin y sgiliau angenrheidiol i ddatblygu a hyrwyddo atebion arloesol a chynaliadwy sydd â'r potensial i wella bywydau pobl. Cynigir y rhaglen yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ond fe'i dyluniwyd yn benodol i fanteisio ar y portffolio o fodiwlau ac arbenigedd a gynigir ar draws holl Gyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Felly, mae'n unigryw gan ei bod yn cynnig ymagwedd wirioneddol ryngddisgyblaethol a chyfunol at yr heriau mae arweinwyr cymdeithas heddiw yn eu hwynebu.

FEL ARFERMAE MODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Amgylchedd Polisi Cymdeithasol • Byw yn Dda a Gwneud yn Dda: Cyflwyniad i Foeseg • Cyflwyniad i Wleidyddiaeth a Heriau Byd-eang • Cysylltiadau Cyhoeddus: Cyfathrebu Strategol • Mentergarwch a Chreadigrwydd: Entrepreneuriaeth ar Waith Blwyddyn 2 • Diogelwch Rhyngwladol • Diwylliannau'r Cyfryngau Cymdeithasol • Efelychu Uwchgynhadledd Fyd-eang • Gwladwriaeth a Sefydliadau Gwleidyddol • Hil ac Ethnigrwydd: Safbwyntiau Americanaidd Blwyddyn 3 • Arweinyddiaeth • Damcaniaeth Gêm • Deall a Gwrthod Terfysgaeth ac Eithafiaeth Dreisgar • Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol • Rheoli Cynaliadwyedd ac Amgylcheddol

BSc Anrhydedd Sengl ▲ A rweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang ♦  Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor)

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Cyngor Gwleidyddol • Cyrff Cyhoeddus • Elusennau • Sefydliadau Anllywodraethol (NGOs) • Y Gwasanaeth Sifil

68

Made with FlippingBook Annual report maker