BODDHAD MYFYRWYR (Complete University Guide 2022) YN Y DU 1 AF
ASTUDIAETHAU AMERICANAIDD CAMPWS PARC SINGLETON
Mae UDA yn cael effaith uniongyrchol a pharhaus ar fywydau pob un ohonom. Mae'n dylanwadu ar ein diwylliant, ein heconomi a'n safbwynt gwleidyddol ac mae ei pholisi tramor yn effeithio ar ein dyfodol. Mae gwybod a deall natur America, ei thraddodiadau hanesyddol, diwylliannol a gwleidyddol, yn ein galluogi i ddeall y grymoedd gwirioneddol sy'n llywio'r ganrif hon yn llawnach.
Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael †
Mae Astudiaethau Americanaidd yn cwmpasu diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth y wlad fwyaf dylanwadol yn y byd, o wladychu i heddiw. Gelli lywio dy gwrs gradd mewn ffordd sy'n gweddu i dy ddiddordebau dy hun, p'un a ydynt ym maes ffilmiau Americanaidd, cerddoriaeth, hil, rhywedd, ymfudo a threfoli, cymdeithasol, hanes economaidd a milwrol, terfysgaeth, neu hawliau sifil a phrotest wleidyddol. Fe fyddi di’n meithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt, a bydd cyfle i ti i dreulio blwyddyn neu semester yn astudio dramor yn yr UDA.
FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i Astudiaethau Americanaidd • Cyflwyniad i Ddiwylliant a Llenyddiaeth Americanaidd • Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Americanaidd • Y Profiad Americanaidd Blwyddyn 2 • Ailystyried y De • America mewn Argyfwng • Creu America’r Trawsatlantig • Dinas Efrog Newydd: Hanes a Diwylliant ers 1945 • Hil ac Ethnigrwydd • Iaith America/Delwedd America Blwyddyn 3 • America a’r Bom • Cenedl Saethwyr: Y Gorllewin mewn Hanes, Ffuglen a Mytholeg • Cerddoriaeth Boblogaidd a'r Ddinas • Ffuglen Americanaidd Gyfoes • Llenyddiaeth a Diwylliant Affricanaidd-Americanaidd • Perygl Clir a Phresennol: Terfysgaeth ac America • Rhyfel Cartref America mewn Hanes a Chof
CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †
BA Anrhydedd Sengl ▲ Astudiaethau Americanaidd ♦ Astudiaethau Americanaidd (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ Astudiaethau Americanaidd (gyda Blwyddyn Sylfaen) BA Cydanrhydedd Astudiaethau Americanaidd a ▲ ♦ Cysylltiadau Rhyngwladol ▲ ♦ Hanes ▲ ♦ Gwleidyddiaeth ▲ ♦ Llenyddiaeth Saesneg ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Addysg • Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau • Gwleidyddiaeth a Llywodraeth
• Rheolaeth a Busnes • Y Gwasanaeth Sifil
67
Made with FlippingBook Annual report maker