ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

(Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr2021) BODDHAD CYFFREDINOL 1 YN Y DU AF

BIOLEG A’R GWYDDORAU BIOLEGOL CAMPWS PARC SINGLETON

Mae dealltwriaeth academaidd ddofn o fywyd ar y ddaear yn bwysicach heddiw nag erioed o'r blaen. Drwy astudio'r amrywiaeth aruthrol o organebau byw sy'n bodoli, gallwn nodi bygythiadau argyfyngus a chyfleoedd pwysig, o'r raddfa leiaf i'r fwyaf. Mae'r radd bioleg tair blynedd hon yn rhoi'r hyblygrwydd i ti archwilio bywyd naturiol lle bynnag y mae dy ddiddordebau.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Bydd y cyrsiau maes sydd ar gael yn lleol, trefol ac yn rhyngwladol yn dy alluogi i weithio mewn amrywiaeth o gynefinoedd. Gelli astudio ecosystemau morol arfordirol trawiadol, amgylcheddau dŵr croyw/ gwlyptir a chynefinoedd Penrhyn Gŵyr sydd ar garreg y drws. Byddi di’n elwa ar gael mynediad i gyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf mewn meysydd ecolegol, ffisiolegol a moleciwlaidd. Ymhlith ein cyfleusterau, mae'r Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy, Amgueddfa Sŵolegol, cwch ymchwil 18 metr pwrpasol a chanolfan ddelweddu unigryw sy'n dangos gwybodaeth amlddimensiynol o ddata dilyn trywydd anifeiliaid. Yn dy flwyddyn olaf, fe fyddi di’n gwneud prosiect ymchwil, a all fod yn seiliedig ar y maes, ar y labordy neu’n hollol ddadansoddol.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Amrywiaeth ac Ymddygiad Anifeiliaid • Bioleg Gelloedd a Microbaidd, Ecoleg ac Ymddygiad Anifeiliaid • Botaneg ac Ecoleg • Bywyd yn y Cefnforoedd • Esblygiad a Geneteg • Sgiliau Craidd ar gyfer Gwyddorau Biolegol Blwyddyn 2 • Amrywiaeth ac Ymddygiad Anifeiliaid • Parasitoleg • Pysgodeg • Ymddygiad Anifeiliaid ym Maes Cadwraeth a Lles Blwyddyn 3 • Bioamrywiaeth • Cadwraeth Planhigion ac Ecoleg • Dulliau Biolegol o Reoli Plâu Di-asgwrn-cefn • Epidemioleg Afiechydon Milheintiol • Ffiseg i Fiolegwyr • Infertebratau Morol • Microbioleg Ecolegol a Chylchoedd Bywyd

CYNNIG NODWEDDIADOL: ABB-BBB (gan gynnwys Bioleg neu Fioleg Ddynol)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Bioleg ♦ B ioleg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ♦ Bioleg (gyda Blwyddyn Sylfaen) ▲ Gwyddorau Biolegol (gan ohirio dewis o arbenigedd) ♦ Gwyddorau Biolegol (gyda Blwyddyn Dramor gan ohirio dewis o arbenigedd) Bioleg y Môr – gweler tudalen 78 Gwyddor yr Amgylchedd a'r Argyfwng

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Addysgu • Biodechnolegydd • Cadwraethau • Rheolaeth Amgylcheddol • Ymchwil Ôl-raddedig Hinsawdd – gweler tudalen 107 Sŵoleg – gweler tudalen 157 ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

Mae achrediadau'n cynnwys:

77

Made with FlippingBook Annual report maker