ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

GWYDDORAU BIOLEGOL (Complete University Guide 2022) YN Y DU 7 BODDHAD MYFYRWYR FED

BIOLEG Y MÔR CAMPWS PARC SINGLETON

Mae Bioleg y Môr yn Abertawe yn gwrs hynod ymarferol. Mae’r Brifysgol mewn lle delfrydol ar gyfer gwaith maes bioleg y môr, ar y tir neu ar gwch. Mae Penrhyn Gwˆ yr gerllaw yn cynnig amrywiaeth o gynefinoedd i’w hastudio, o draethau caregog agored a chlogwyni serth i faeau bach cysgodol a thwyni tywod, morfeydd heli cefnforol agored, y dyfnfor a fflatiau dryslyd aberol.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Byddi di’n cael hyfforddiant mewn amrywiaeth o dechnegau gwneud arolygon a samplu, a byddi di’n cael profiad yn adnabod amrywiaeth eang o infertebratau a physgod sy’n byw ar wely’r môr. Bydd y cyrsiau maes sydd ar gael yn lleol ac yn rhyngwladol yn dy alluogi i weithio mewn amrywiaeth o gynefinoedd. Ymhlith y prosiectau diweddar mae ymfudiad crwbanod môr, ymddygiad morfilod, a llygredd olew. Mae'n bosibl y cei gyfle i ymuno â chwrs maes rhyngwladol yn Puerto Rico neu Malaysia*. Ymhlith ein cyfleusterau addysgu ac ymchwil sydd ar flaen y gad mae'r Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy, amgueddfa sŵolegol, cwch arolygu dosbarth catamarán 18 metr pwrpasol a chanolfan ddelweddu unigryw sy'n dangos gwybodaeth amlddimensiynol o ddata dilyn trywydd anifeiliaid.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Amrywiaeth ac Ymddygiad Anifeiliaid • Bywyd yn y Cefnforoedd • Bioleg Gelloedd a Microbaidd • Esblygiad a Geneteg Blwyddyn 2 • Cwrs Maes Bioleg y Môr (Sir Benfro) • Ecosystemau Morol: Bygythiadau a Chadwraeth • Eigioneg • Infertebratau Morol • Pysgodeg Blwyddyn 3 • Bioleg Begynol • Ecoleg Forol Drofannol a Chadwraeth • Hormonau ac Ymddygiad • Pysgodfeydd a Dyframaeth

CYNNIG NODWEDDIADOL: ABB-BBB (gan gynnwys Bioleg neu Fioleg Ddynol)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Bioleg y Môr ♦ Bioleg y Môr (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ♦ B ioleg (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn arwain at BSc Bioleg y Môr Bioleg – gweler tudalen 77 Sŵoleg – gweler tudalen 157

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Addysgu • Cadwraethau • Ymchwilydd Morol • Ymchwil Ôl-raddedig • Ymgynghorydd Amgylcheddol

* Gall teithiau maes, gan gynnwys teithiau maes rhyngwladol, newid.

Mae achrediadau'n cynnwys:

78

Made with FlippingBook Annual report maker