ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

RHAGOLYGON GRADDEDIGION (Complete University Guide 2022) 10 UCHAF YN Y DU

PEIRIANNEG: AWYROFOD CAMPWS Y BAE

Mae ein gradd mewn Peirianneg Awyrofod yn rhoi hyfforddiant arbenigol i ti ar theori a gweithrediad cerbydau awyrennol, o awyrennau a yrrir gan jetiau a phropelorau i gleiderau a hofrenyddion. Byddi di’n dysgu am y daith beirianneg lawn, o'r cysyniad ar y tir i'w rheoli yn yr awyr. P'un a yw dy brif ddiddordeb yn ymwneud â dylunio, dadansoddi, profi neu hedfan, mae gan Brifysgol Abertawe rywbeth at ddant pawb.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Mae'r gradd wedi’i achredu’n broffesiynol a chwrs amlddisgyblaethol hwn yn treiddio i atmosffer ein planed a'r cosmos y tu hwnt gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn, yn ogystal â'r technolegau sydd eu hangen i'w harchwilio. Wrth i ti fynd yn dy flaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd dadansoddol y byddi di’n eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar o'r radd flaenaf, gan feithrin

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i Beirianneg Awyrofod • Dosbarthiadau Dylunio a Labordy • Dylunio Peirianneg • Mecaneg Hylifau • Thermodynameg Blwyddyn 2 • Aerodynameg • Mecaneg Strwythurol ar gyfer Peirianwyr Awyrofod • Peirianneg drwy Gymorth Cyfrifiadur • Rheolaeth Awyrofod • Systemau Awyrofod Blwyddyn 3 • Deunyddiau Perfformiad Uchel a Dethol • Dynameg Nwyon • Gyriant • Gyriant Gofod a Systemau Pŵer • Systemau Lloerenni

CYNNIG NODWEDDIADOL: BEng: ABB-BBB (gan gynnwys Mathemateg) MEng: AAB (gan gynnwysMathemateg)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Gwyddonydd Rocedi • Peiriannydd Amddiffyn • Peiriannydd Dylunio Awyrennau • Peiriannydd Dylunio Lloerenni • Peiriannydd Profion Hedfan • Peiriannydd Systemau Awyrennau BEng Anrhydedd Sengl ▲ Peirianneg Awyrofod ♦ Peirianneg Awyrofod (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ♦ Peirianneg Awyrofod (gyda Blwyddyn Sylfaen) MEng Anrhydedd Sengl ♦ Peirianneg Awyrofod H Peirianneg Awyrofod (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD H 5MLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth mewn diwydiant awyrofod ehangach.

Yn dy flwyddyn gyntaf, byddi di’n cael gwers hedfan. Bydd gweithio â chyfleusterau fel Efelychwr Hedfan Peirianneg Merlin MPX521, Injan JetCat P120 a thwnnel gwynt pwrpasol yn sicrhau dy fod bob amser ar flaen y gad. Ar gyfer dy ail flwyddyn o astudio, fe fyddi di'n gallu arbenigo mewn ffrwd peirianneg awyrofod benodol: Gofod, Deunyddiau/Gyriant neu Strwythurol/Cyfrifiadol.

Mae achrediadau'n cynnwys:

144

Made with FlippingBook Annual report maker