CWRS (Complete University Guide 2022) 10 UCHAF YN Y DU
PEIRIANNEG GYFFREDINOL CAMPWS Y BAE
Mae ein gradd BEng Peirianneg yn cynnig addysg eang mewn dulliau peirianneg hanfodol gyda chyfle i arbenigo, gan gynnig llawer iawn o hyblygrwydd wrth ddewis llwybr gyrfa cyffrous mewn ystod o sectorau peirianneg traddodiadol a'r rhai sy'n dod i'r amlwg. Gan gydnabod bod sgiliau technegol yn un elfen yn unig o gymhwysedd peiriannydd newydd, bydd y radd hon yn helpu graddedigion i lywio arloesi technegol a newid sefydliadol.
Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael
Nod y cwrs yw annog graddedigion i ddatblygu'n beirianwyr moesegol sy'n deall eu heffaith ar y byd a'i effaith arnyn nhw. Byddi di’n dysgu am ddiwydiannau sy'n dod i'r amlwg megis roboteg, awtomateiddio a gweithgynhyrchu haen-ar-haen a'r effaith peirianneg ar gymdeithas. Byddi di'n archwilio dylunio creadigol; tra'n cael profiad ymarferol ym maes dylunio peirianneg, dysgu am reoli mewn byd digidol a gweithio ar y cyd â phartneriaid diwydiant a myfyrwyr o Texas A&M ar ddylunio peirianneg byd-eang. Bydd gen ti'r cyfle i archwilio pwnc o dy ddewis yn fanylach gyda'r opsiwn i arbenigo mewn Gweithgynhyrchu, Rheoli Peirianneg, Peirianneg Awyrofod neu Sifil.
FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cryfder Deunyddiau • Cyflwyniad i Electromagnetig • Dadansoddi Cylchedau • Dylunio Peirianneg Integredig Cynaliadwy • Mecaneg Peirianneg Blwyddyn 2 • Dylunio ar gyfer Peirianneg Feddygol • Mentergarwch a Chreadigrwydd • Peirianneg gyda Chymorth Cyfrifiadur Blwyddyn 3 • Dylunio a Rheoli Peirianneg Integredig Cynaliadwy • Gwyddor Data ar gyfer Peirianwyr • Peirianneg Byd-eang ar y cyd â Phrifysgol A&M Tecsas • Rheoli Arloesedd
CYNNIG NODWEDDIADOL: BEng: ABB-BBB (gan gynnwys Mathemateg) MEng: AAB (gan gynnwys Mathemateg)
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †
BEng Anrhydedd Sengl ▲ Peirianneg ♦ Peirianneg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ♦ Peirianneg (gyda Blwyddyn Sylfaen)
▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Peiriannydd Digidol • Peiriannydd Gweithgynhyrchu • Peiriannydd Integredig • Peiriannydd Mecatroneg
• Rheoli Peirianneg • Rheolwr Prosiect
143
Made with FlippingBook Annual report maker