ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

MEDDYGAETH GYFLENWOL (Complete University Guide 2022) 1 YN Y DU AF

OSTEOPATHEG CAMPWS PARC SINGLETON

Bydd gradd mewn Osteopathi yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnat i ddod yn osteopath cofrestredig sy'n gymwysedig i roi diagnosis o ystod eang o broblemau iechyd a'u trin drwy therapi â llaw a therapi corfforol, ymarferion wedi'u teilwra, adsefydlu, a chyngor. Byddi di’n meithrin dealltwriaeth drylwyr o anatomeg, ffisioleg, seicoleg a phatholeg ynghyd â thechnegau archwilio clinigol rhagorol, drwy gyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau clinigol ymarferol helaeth.

Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael

Mae'r cwrs hwn wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor Osteopatheg Cyffredinol, sy'n dy alluogi i gofrestru i ymarfer ar ôl graddio. Ymhlith y cyfleusterau o'r radd flaenaf mae clinig osteopatheg cwbl weithredol yn yr Academi Iechyd a Llesiant sydd wedi ennill gwobrau. Mae staff y clinig hwn yn osteopathiaid cymwysedig sy'n gweithio yn y proffesiwn. Mae hyn yn sicrhau y byddi di’n meithrin dy sgiliau a dy hyder dan oruchwyliaeth mewn amgylchedd diogel wrth i ti roi dy wybodaeth ddamcaniaethol ar waith. Mae gennym gytundeb unigryw â bwrdd iechyd lleol sy'n rhoi'r cyfle i ti weithio yn un o leoliadau integredig y GIG oddi ar y campws yn dy flwyddyn olaf. FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Anatomeg a Ffisioleg • Datblygu’n Broffesiynol a Phersonol • Sgiliau Osteopatheg

Blwyddyn 2 • Biomecaneg Glinigol a Delweddu • Ffisioleg a Chymdeithaseg Gymhwysol ar gyfer Gofal Iechyd • Pathoffisioleg a Therapiwteg • Sgiliau Osteopatheg Blwyddyn 3 • Cymhwyso Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth • Datblygu Sgiliau Rheoli Busnes • Sgiliau Osteopatheg Blwyddyn 4 • Portffolio Datblygiad Personol a Phroffesiynol • Traethawd Hir • Ymarfer Osteopatheg Ymreolaethol

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB (gan gynnwys Addysg Gorfforol neu Wyddor Fiolegol)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

M.Ost Anrhydedd Sengl ♦ Osteopatheg ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Mae’r rhan fwyaf o osteopathiaid cofrestredig yn gweithio yn y sector preifat. Gall osteopatheg cymwysedig ddisgwyl cyflog cychwynnol o £25,000.

Darllen ein canllaw pwnc yma:

Mae achrediadau'n cynnwys:

142

Made with FlippingBook Annual report maker