ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

ANSAWDD YMCHWIL (Complete University Guide 2022) YN Y DU 1 AF

PEIRIANNEG: BIOFEDDYGOL CAMPWS Y BAE

Mae Peirianneg Biofeddygol yn cymhwyso egwyddorion peirianneg at y corff dynol, er mwyn gweithio tuag at fath soffistigedig a phersonol o ofal iechyd yn y dyfodol. Mae'n cyfuno peirianneg â'r offerynnau a ddefnyddir mewn meddygaeth fodern, gyda'r nod o greu technolegau newydd pwysig a fydd yn cael effaith ar fywydau pob un ohonom ac yn ymestyn ein hoes. Gelli fod wrth wraidd y cyfan.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Mae ein cwrs yn dy baratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad mewn amrywiaeth o sectorau. Byddi di’n meithrin sgiliau craidd peirianneg gan ddysgu am anatomeg, ffisioleg a chyfathrebu â chlinigwyr. Wrth i ti fynd yn dy flaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd dadansoddol a datrys problemau y byddi di’n eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio dyfeisiau ac offerynnau meddygol diwydiannol, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i weithio yn y diwydiant ehangach. Mae tair prif thema i'n graddau mewn Peirianneg Biofeddygol: Biomecaneg a deunyddiau – datblygu a dadansoddi deunyddiau er mwyn iddynt fod yn gryf ac yn fiogydnaws; Offeryniaeth – meintoli technegau diagnostig a therapiwtig uwch; Biobrosesau – manylu ar brosesau ffisegol, cemegol a biolegol pwysig yn y corff dynol. FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i Beirianneg Ddeunyddiau • Dulliau Rhifiadol ar gyfer Peirianwyr Biofeddygol • Ffisioleg Ddynol • Gwyddor Peirianneg Gemegol • System Niwrogyhyrysgerbydol Dynol

Blwyddyn 2 • Bioleg Celloedd a Mecaneg Celloedd i Beirianwyr • Dulliau Ystadegol mewn Peirianneg • Dylunio ar gyfer Peirianneg Feddygol • Llif Hylifol • Modelu Proses Blwyddyn 3 • Dylunio Cynnyrch gyda Chymorth Cyfrifiadur • Peirianneg Meinweoedd • Prosiect Dylunio Grŵp Peirianneg Feddygol • Rheoli Peirianneg • Technolegau Mewnblaniadau a Phrosthetig

CYNNIG NODWEDDIADOL: BEng: ABB-BBB (gan gynnwys Mathemateg) MEng: AAB (gan gynnwysMathemateg)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Gwyddonydd Ymchwil Feddygol • Peiriannydd Adsefydlu • Peiriannydd Bioddeunyddiau • Peiriannydd Biofeddygol • Peiriannydd Dylunio Prosthetigau • Peiriannydd/Gwyddonydd Clinigol ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD H 5MLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs BEng Anrhydedd Sengl ▲ Peirianneg Biofeddygol ♦ Peirianneg Biofeddygol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ♦ Peirianneg Biofeddygol (gyda Blwyddyn Sylfaen) MEng Anrhydedd Sengl ♦ Peirianneg Biofeddygol H Peirianneg Biofeddygol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor)

Darllen ein canllaw pwnc yma:

Mae achrediadau'n cynnwys:

145

Made with FlippingBook Annual report maker