ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

BLWYDDYN SYLFAEN

BETH YW BLWYDDYN SYLFAEN? Os nad oes gen ti'r gofynion mynediad angenrheidiol sydd eu hangen arnat i gael dy dderbyn i flwyddyn gyntaf gradd, gelli wneud cais am le ar gwrs gradd sydd â Blwyddyn Sylfaen Integredig. Ystyr hyn yw y byddi’n astudio am bedair blynedd yn hytrach na thair. Bydd Benthyciadau i Fyfyrwyr hefyd yn talu am y flwyddyn sylfaen. Yn ystod dy flwyddyn gyntaf, byddi’n gallu gwella dy sgiliau a gwella dy ddealltwriaeth o'r pwnc. Ar ôl cwblhau'r flwyddyn sylfaen yn llwyddiannus byddi yna'n mynd yn syth i mewn i'r prif gwrs gradd. Pan fyddi di’n graddio, bydd fel petait wedi graddio o'r cwrs gradd tair blynedd a bydd dy gymhwyster yn radd Baglor, e.e. BSc (Anrh) neu BA (Anrh). A FYDD ASTUDIO BLWYDDYN SYLFAEN YN GOLYGU FY MOD Y TU ÔL I FYFYRWYR ERAILL? Ddim o gwbl – mae llawer o'n myfyrwyr sydd wedi astudio blwyddyn sylfaen yn perfformio'n well na myfyrwyr sy'n dechrau ar flwyddyn gyntaf y brif radd. Mae llawer ohonynt yn mynd ymlaen i gael graddau dosbarth cyntaf, maen nhw'n llysgenhadon gwych ar gyfer y Brifysgol ac yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr yn eu hadran. Graddiodd Nathan Pine sy'n gyn-fyfyriwr yn yr adran Ffiseg gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf, a chanlyniad terfynol anhygoel o 92%. Rhestrwyd Nathan hefyd yn gydawdur ar bapur ymchwil ochr yn ochr â'i diwtor a myfyriwr PhD. Ddim yn ffôl ar gyfer myfyriwr israddedig!

DYWEDODD NATHAN: Ni wireddais fy mhotensial llawn yn y chweched dosbarth felly yn ystod fy mlwyddyn sylfaen a’r flwyddyn gyntaf yn Abertawe, sylweddolais mai fy astudiaethau oedd fy mhrif flaenoriaeth, a llwyddais i gael marciau uwch ac uwch. Rhoddodd hyn agwedd gadarnhaol i mi at fy ngwaith pan es i ymlaen i’r ail a’r drydedd flwyddyn, gan adael i mi ennill canran uchel iawn yn gyson ar draws amrywiaeth o fodiwlau . PA SGILIAU ERAILL Y GALLAF EU DYSGU YN YSTOD FY MLWYDDYN SYLFAEN? Yn dibynnu ar dy bwnc, fe elli di fireinio sgiliau eraill y gallai fod eu hangen arnat. Er enghraifft, os wyt am astudio Ffiseg, ond dy arholiad Mathemateg Safon Uwch a dy siomodd, mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyfle gwych i ti ddatblygu dy sgiliau Mathemateg at y safon. Byddi hefyd yn dod

yn fwy hyderus yn dy allu dy hun. PA GYMWYSTERAU SYDD EU HANGEN ARNAF I WNEUD CAIS?

Rydyn yn ystyried ceisiadau ar sail eu rhinweddau eu hunain, felly gall cynigion amrywio, ond rydyn yn gwarantu ** y byddwn yn rhoi cynnig i ti. Gallai hyn fod ar ffurf cynnig nodweddiadol o raddau. Rhestrir y cynnig nodweddiadol ar y tudalennau pwnc yn y prosbectws hwn, ond rydyn yn hapus i dderbyn ystod o gymwysterau eraill. Felly, gwiria’r tudalennau cyrsiau unigol ar ein gwefan i gael meini prawf mwy manwl a phenodol i'r pwnc: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

** gweler tudalen 54

• Biowyddorau • Biocemeg MEYSYDD PWNC BLWYDDYN SYLFAEN INTEGREDIG • Cymdeithas a Lles • Daearyddiaeth • Economeg • Ffarmacoleg Feddygol • Fferylliaeth • Ffiseg • Geneteg • Biocemeg a Geneteg • Biocemeg Feddygol • Cemeg • Cyfrifeg a Chyllid • Cyfrifiadureg

• Geneteg Feddygol • Gwyddoniaeth

• Marchnata • Mathemateg • Peirianneg • Rheoli Busnes • Seicoleg • Y Dyniaethau

• Gwyddor Actiwaraidd • Gwyddorau Meddygol Cymhwysol • Iechyd Poblogaethau a'r Gwyddorau Meddygol

58

Made with FlippingBook Annual report maker