ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

BIOCEMEG / BIOCEMEG A GENETEG / BIOCEMEG FEDDYGOL / FFARMACOLEG FEDDYGOL CAMPWS SINGLETON Safon Uwch neu gyfwerth: Caiff pob cais ei ystyried yn unigol. Os nad wyt ti'n meddwl dy fod yn bodloni ein gofynion mynediad BSc safonol, cysyllta â ni i drafod dy gymwysterau ar gyfer mynediad i'r Flwyddyn Sylfaen. Dylai'r cymwysterau gynnwys Cemeg. TGAU: Cymraeg/Saesneg a Mathemateg gradd C (4) o leiaf Bydd y Flwyddyn Sylfaen Integredig hon yn dy helpu i ddatblygu sgiliau allweddol a gwybodaeth gadarn am hanfodion cemeg fiolegol ac organig, bioleg foleciwlaidd, trin data ac ymarfer labordy. Mae'n ddelfrydol os oes gen ti ddiddordeb yn y gwyddorau bywyd ond nid oes gen ti'r cymwysterau mynediad gofynnol i ymuno â'n rhaglenni BSc neu os wyt yn fyfyriwr aeddfed sy'n dychwelyd i addysg. FEL ARFER MAE’R MODIWLAU SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Bioleg Foleciwlaidd, Celloedd Dynol, Cemeg Fiolegol, Cemeg Organig, Datblygu Sgiliau, Metaboledd a Homeostatis, Microbioleg ac Afiechyd DILYNIANT I’RRHAGLENNIGRADDBSc ANRHYDEDDSENGLCANLYNOL*: • Biocemeg**

BIOWYDDORAU CAMPWS SINGLETON

CEMEG CAMPWS SINGLETON

Safon Uwch neu gyfwerth: CCD (Os nad wyt yn astudio Bioleg Safon Uwch, mae angen TGAU Gradd B mewn Bioleg/Gwyddoniaeth)

Safon Uwch neu gyfwerth: CCD (gan gynnwys Cemeg) TGAU: Cymraeg/Saesneg a Mathemateg gradd C o leiaf

TGAU: Cymraeg/Saesneg a Mathemateg gradd C o leiaf

Mae'r Flwyddyn Sylfaen Integredig yn rhoi cyfle i feithrin dealltwriaeth wyddonol a rhifiadol sy'n hanfodol i gwblhau gradd mewn Bioleg yn llwyddiannus. Mae'r radd hon yn rhoi’r hyblygrwydd i archwilio bywyd naturiol waeth beth fo dy ddiddordebau. FEL ARFER MAE’R MODIWLAU SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Bioleg Foleciwlaidd a Biocemeg, Sgiliau Ymchwil ar gyfer Biolegwyr, Technegau mewn Ecoleg: cyflwyniad DILYNIANT I’R RHAGLENNI GRADD BSc ANRHYDEDD SENGL CANLYNOL*: • Bioleg • Bioleg y Môr • Sŵoleg

Mae'r Flwyddyn Sylfaen Integredig hon yn addas os nad oes gen ti'r cymwysterau perthnasol i ddechrau'n syth ar y cwrs BSc tair blynedd. Mae'r cwricwlwm Cemeg yn Abertawe yn cael ei lywio gan anghenion diwydiant modern ac mae'n cael ei ddiweddaru'n gyson. Mae hyn yn sicrhau y caiff deunydd perthnasol sy'n gymwys i'r byd ehangach ei addysgu i ti bob amser. FEL ARFER MAE’R MODIWLAU SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Adweithiau a Chynhyrchion, Cemeg Elfennol, Dulliau Dadansoddi a Chanfod, Ffiseg Cemeg, Mathemateg Sylfaenol i Gemegwyr, Synthesis a Dadansoddi DILYNIANT I’R RHAGLEN GRADD BSc ANRHYDEDD SENGL CANLYNOL*: • Cemeg

• Biocemeg a Geneteg** • Biocemeg Feddygol** • Ffarmacoleg Feddygol**

(**mae isafswm o 60% yn ofynnol er mwyn symud ymlaen i Flwyddyn 1 o'r Flwyddyn Sylfaen)

Am fanylion llawn y cwrs a chodau UCAS unigol gweler y rhestr o gyrsiau A-Y ar: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau a darganfydda’r radd a restrir ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’ *Mae cwblhau’r flwyddyn sylfaen yn darparu dilyniant i’r rhaglenni gradd a restrwyd

59

Made with FlippingBook Annual report maker