DAWNS YR HAF
Mae Dawns Haf Prifysgol Abertawe, sy’n debyg i ŵyl, yn cael ei chynnal ar y lawnt o flaen Abaty Singleton, ac mae’n noson fawr yng nghalendr y myfyrwyr. Mae’r digwyddiad yn denu perfformwyr proffil uchel yn rheolaidd – mae’r prif atyniadau yn y gorffennol wedi cynnwys Pendulum, Rudimental, Pixie Lott,
BLASU HUFEN IÂ
Ymuna a chael bod yn rhan o rwydwaith astudio a chymdeithasu cenedlaethol cyfrwng Cymraeg. YMUNA Â CHANGEN Y COLEG CYMRAEG
Tim Minchin, Sub Focus a Florence and the Machine.
Os yw’r haul yn gwenu’n braf neu os yw’r tymheredd islaw sero, does dim gwahaniaeth, bydd bob amser ciw o bobl y tu allan i barlwr hufen iâ enwog Joe’s yn Abertawe.
LAWRLWYTHA AP ARWAIN
Yr ap sy’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen arnat am ein cyrsiau a’n modiwlau cyfrwng Cymraeg, cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr, a chyfleoedd i fyw a chymdeithasu trwy’r Gymraeg yn Abertawe.
Tyrd i gynrychioli Prifysgol Abertawe a chystadlu yn un o brif ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol myfyrwyr Cymru. CYSTADLU YN YR EISTEDDFOD RHYNG-GOL
PÊL-DROED Y BENCAMPWRIAETH
Rydyn yn falch o rannu ein dinas â’r tîm pencampwriaeth Dinas Abertawe, yr Elyrch arwrol. Ymuna yn y cyffro yn Stadiwm Swansea.com. YMUNA AG AELWYD YR ELYRCH Ymuna ag Aelwyd Urdd Prifysgol Abertawe. Mae'r Aelwyd yn cynnig cyfleoedd i ti gystadlu yn yr Eisteddfod, gwirfoddoli yn y gymuned leol a bod yn rhan o weithgareddau ymarferol a llawer mwy.
YMUNA Â’R GYMGYM A CHLWB CHWARAEON TAWE
Ymuna â’r Gymdeithas Gymraeg er mwyn bod yn rhan o’r croliau, y nosweithiau cymdeithasol a’r tripiau blynyddol i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, a hefyd Glwb Rygbi Tawe.
17
Made with FlippingBook Annual report maker