ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

CYFLEUSTERAU Gydag ystod helaeth o gyfleusterau chwaraeon ar gael i fyfyrwyr ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ar bwys Campws Singleton ac ar Gampws y Bae hefyd, mae'r Brifysgol yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau dan do a rhai awyr agored. Mae gan y ddau gampws gyfleusterau iechyd a ffitrwydd ardderchog, gan gynnwys offer a dosbarthiadau o'r radd flaenaf. Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig cyfleuster cryfder a chyflyru o'r radd flaenaf (Y Sied) sydd ar gael i athletwyr elît a thimau. Mae Crysau Duon Seland Newydd wedi defnyddio ein cyfleusterau chwaraeon i hyfforddi ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd, ac mae ein pwll cenedlaethol 50m wedi'i ddefnyddio gan athletwyr wrth baratoi ar gyfer gemau Olympaidd a Pharalympaidd ac ar hyn o bryd mae'n gartref i raglen perfformiad uchel Nofio Cymru. Mae ein timau pêl-droed yn cael defnyddio cyfleuster hyfforddi o safon fyd-eang yn Fairwood, sy'n brif gae hyfforddi i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Mae ein hystod eang o gyfleusterau chwaraeon yn cynnwys: • Cae Artiffisial ar sail dŵr • Caeau Chwarae • Cyrtiau tennis • Gwasanaeth llogi beiciau a llwybrau rhedeg • Neuaddau chwaraeon amlbwrpas ac ardaloedd

Llewod Prydain ac Iwerddon, chwaraewr Cymru a’r Gweilch a chyn-fyfyriwr y Gyfraith, Abertawe Alun Wyn Jones

O ganlyniad i’r Ysgoloriaeth Chwaraeon yn y brifysgol, ces i gyfle i ddilyn dau lwybr gyrfaol ar yr un pryd. Mae gen i atgofion melys o fy amser ym Mhrifysgol Abertawe, yn enwedig ennill Gêm y Prifysgolion. Dwi’n gwybod na fydd gyrfa mewn chwaraeon yn para am byth, felly dwi’n fodlon ystyried dychwelyd i wella fy nghymwysterau yn y dyfodol.

gemau awyr agored • Pafiliwn chwaraeon • Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe

• Trac a chae athletau • Trac athletau dan do

AELODAETH O'R GAMPFA Fel rhan o ffordd o fyw gytbwys ac iach ym Mhrifysgol Abertawe, gall myfyrwyr ymaelodi â'r gampfa a chael nifer o fanteision am bris llai. Mae bod yn aelod hefyd yn rhoi i ti'r manteision canlynol: • Y gallu i ddefnyddio 69 o gampfeydd yn y DU fel rhan o gynllun UNIversal BUCS. • Mynediad at gyfleusterau campfeydd ar Gampws y Bae ac ar Gampws Singleton • Dosbarthiadau ffitrwydd • Wi-Fi am ddim wrth i ti hyfforddi

YN OGYSTAL Â’N LLEOLIAD ARFORDIROL RHAGOROL, MAE ABERTAWE’N CYNNIG RHAI O’R CHWARAEON GORAU MEWN UNRHYW BRIFYSGOL YM MHRYDAIN

43

Made with FlippingBook Annual report maker