ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

£2,000 YSGOLORIAETHAU Gweler y wefan ar gyfer yr amodau:

RHAGLEN PERFFORMIAD UCHEL Mae ein rhaglenni Perfformiad Uchel yn cynnig amgylchedd hyfforddi a chystadlu elît i athletwyr mewn ystod o gampau, gyda phob un yn cael ei gyflenwi mewn cydweithrediad â chlwb chwaraeon proffesiynol neu gorff llywodraethu cenedlaethol. Mae pob camp yn derbyn hyfforddiant perfformiad uchel, gwasanaethau ym maes y gwyddorau chwaraeon, rheoli ffordd o fyw athletwyr, ffisiotherapi a chymorth cryfder a chyflyru. Ar hyn o bryd, dyma'r chwaraeon: rygbi’r undeb, pêl-droed, nofio, hoci a thennis bwrdd.  abertawe.ac.uk/israddedig/ysgoloriaethau

 abertawe.ac.uk/israddedig/ysgoloriaethau

YSGOLORIAETHAU CHWARAEON, A CHYNLLUN YSGOLORIAETHAU I ATHLETWYR DAWNUS (TASS) Mae’r Brifysgol yn cynnig ysgoloriaethau i athletwyr dawnus iawn a phecyn cymorth gwerth hyd at £2,000 y flwyddyn a allai gynnwys; hyfforddiant cryfder a chyflyru, ffisiotherapi, cymorth seicolegol a chyngor maethol – a darperir pob un ohonynt gan ymarferwyr cymwys. Gall buddion eraill gynnwys aelodaeth o gyfleusterau am ddim a hawlen i barcio ar y campws. VARSITY Varsity Cymru yw'r digwyddiad mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru, a’r ail fwyaf ymhlith Gemau Varsity Prydain, tu ôl i’r gêm rhwng Rhydychen a Chaergrawnt. Yn ystod Gemau'r Prifysgolion, mae Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn cystadlu mewn dros 30 o gampau gwahanol, fel pêl-fasged, rhwyfo, golff, a hoci, cleddyfaeth, sboncen a ffrisbi eithafol, a'r uchafbwynt yw gemau rygbi’r undeb mewn stadiwm fawr.

CHWARAEON CYSTADLEUOL Ni yw'r Brifysgol sy'n gwella gyflymaf yn nhablau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) ac roeddem yn y 18fed safle yn nhabl 2018-19. Ceir ystod eang o gyfleoedd i ti gynrychioli'r Brifysgol yn gystadleuol yng ngemau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain a chystadlaethau

domestig allweddol oherwydd cei ymaelodi â dros 50 o glybiau chwaraeon. Mae ein clybiau'n cynnig ystod o sesiynau hyfforddi a arweinir gan hyfforddwyr i roi'r cyfle i ti gyflawni dy nodau o ran chwaraeon.

18 SAFLE BUCS FED Tabl Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) 2018-19

VARSITY: ABERTAWE VS CAERDYDD

44

Made with FlippingBook Annual report maker