ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

BETH SY’N DIGWYDD NESAF? Ar ôl i ni dderbyn dy gais, bydd staff y Swyddfa Dderbyn yn gwirio dy fod yn bodloni’r gofynion mynediad ac yn asesu dy ddatganiad personol a dy eirda i sicrhau bod gen ti'r profiad a’r sgiliau angenrheidiol i astudio’r pwnc. Byddwn yn chwilio am dystiolaeth o dy ymrwymiad a dy gymhelliad, ac yn talu sylw i dy lwyddiannau. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl a fydd yn achub ar y cyfle i ennill sgiliau a gwybodaeth newydd, a fydd yn elwa fwyaf o’r profiad yn Abertawe. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn pobl a fydd yn ychwanegu gwerth at chwaraeon, diwylliant, a bywyd cymdeithasol ein cymuned. Bydd UCAS yn rhoi gwybod i ti os byddwn yn cynnig lle i ti ac a oes unrhyw amodau arbennig. O bryd i’w gilydd, gall aelod o staff y Coleg neu’r Ysgol sydd o ddiddordeb i ti awgrymu y byddi’n derbyn cynnig, ond nid yw hyn yn ymrwymiad pendant – arhosa am gynnig ffurfiol gan UCAS.

Ar ôl adolygu dy gais, mae’n bosib y byddwn yn dy wahodd i gyfweliad i ddod i dy adnabod yn well. Yn aml, mae cwrdd â darpar fyfyrwyr mewn cyfweliadau a Diwrnodau Agored yn caniatáu’r hyblygrwydd i ni deilwra ein cynigion at gryfderau pob unigolyn. Os yw’n cynnig yn un amodol, yna dim ond pan gaiff y canlyniadau eu cyhoeddi y bydd dy gais yn cael ei dderbyn yn derfynol. Os wyt yn derbyn ein cynnig amodol yn gadarn ond os nad wyt yn ennill y canlyniadau angenrheidiol yn dy arholiadau, mae’n bosib y gallwn gadarnhau dy gynnig ar sail dy berfformiad cyffredinol. I gael rhagor o wybodaeth am ein polisïau a’n gweithdrefnau derbyn, ymwêl â: abertawe.ac.uk/derbyn-myfyrwyr

Siarad ag aelod o’n tîm Derbyn ar gyfer dy gais gan ddefnyddio ein sgwrs fyw:

abertawe.ac.uk/astudio/derbyn- myfyrwyr/gofynnwch-innin-fyw

55

Made with FlippingBook Annual report maker