ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

PRIFYSGOL YMCHWIL DDWYS

Mae ein hymchwil yn newid bywydau, yn gyrru arloesedd, ac mae'n cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Rydyn yn archwilio ffyrdd newydd o asesu a lliniaru risgiau'r argyfwng hinsawdd ac rydyn yn gweithio i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas; trwy wella iechyd a lles o'n cymdeithas ac i gyfoethogi ein holl fywydau trwy ein dealltwriaeth o hanes a'r celfyddydau. Mae llawer o’n hymchwilwyr yn addysgu ar gyrsiau yma hefyd, sy’n golygu y gelli di fod yn gweithio gydag arbenigwyr byd-eang ar flaen y gad yn eu meysydd. Wrth i ti barhau gyda dy astudiaethau, gelli di ymuno â’u timoedd ymchwil, gan helpu i archwilio, atal a datrys problemau byd-eang. 25 ANSAWDD YMCHWIL UCHAF YN Y DU (The Complete University Guide 2022)

Darllen ein Cylchgrawn Ymchwil chwarterol a darganfod mwy am ymchwil Prifysgol Abertawe yma:

M O M E N T W M Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe Rhifyn 38 | Hydref 2021

Athletwyr yn manteisio ar dechnoleg wisgadwy Llawfeddygaeth adluniol arloesol Cadw treftadaeth ddiwylliannol

04

Made with FlippingBook Annual report maker