ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

PROFIADAU

BLWYDDYN NEU SEMESTER DRAMOR Mae rhai cyrsiau yn caniatáu i ti dreulio

blwyddyn neu semester dramor. Mae'r flwyddyn dramor yn ychwanegu blwyddyn at dy radd gyffredin. Yn dibynnu ar dy gwrs, fe fyddi di'n astudio mewn prifysgol partner, cwblhau lleoliad gwaith neu weithio fel cynorthwyyd dysgu. Mae hyn fel arfer yn digwydd yn ystod dy ail flwyddyn gradd tair blynedd. Cei ragor o wybodaeth ar dudalen we dy gwrs a hefyd ar-lein:  abertawe.ac.uk/mynd-yn-fyd-eang NODER: Nid yw cofrestru ar raglen a chanddi semester neu flwyddyn dramor yn gwarantu dy semester neu flwyddyn dramor. Mae nifer cyfyngedig o leoedd ac maent yn dibynnu ar broses dethol gystadleuol a bydd angen i ti fodloni isafswm gofynion academaidd er mwyn cymryd rhan mewn rhaglen sy’n cynnwys semester neu flwyddyn dramor. Gall costau cyrchfannau a chostau sy’n gysylltiedig â’r rhaglen amrywio. Os nad wyt ti'n sicrhau lleoliad dramor am semester neu flwyddyn, cei dy drosglwyddo i fersiwn gyffredin dy gynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor. RHAGLENNI’R HAF Mae rhaglenni’r haf ar agor i bob myfyriwr ac maent yn cynnig profiad rhyngwladol gwerthfawr yn ogystal â dy gynllun gradd. Gelli ddewis wrth raglenni interniaeth, gwirfoddoli, diwylliannol ac astudio mewn gwledydd yn cynnwys Tseina, Japan, Zambia, Fiji ac Ewrop. Efallai byddi di hefyd am feddwl am gymryd rhan mewn rhaglen rhithwir yr haf ar-lein i ddatblygu dy sgiliau cyflogadwyedd a dy rwydwaith rhyngwladol. Gweler ein gwefan i gael mwy o wybodaeth am bob cyfle:  abertawe.ac.uk/rhaglenni-byr-a- rhaglenni-ha f CYLLID Mae amrywiaeth o gyfleoedd ariannu ar gael i gefnogi myfyrwyr sy’n dewis mynd dramor, ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf, gweler:  abertawe.ac.uk/mynd-yn-fyd-eang/ cyllid-ac-ariannu

Ym Mhrifysgol Windsor, cefais ddosbarthiadau gwych, a gwnaeth un roi'r cyfle i mi weithio fel intern mewn gŵyl ffilmiau. Cefais fewnwelediad gwerthfawr i'r byd gwaith a rhoddodd ddarlun cliriach o'r yrfa roeddwn am ei harchwilio. Cwblhaodd Alice flwyddyn dramor yng Nghanada fel rhan o'r cwrs BSc mewn Rheoli Busnes Cwblhaodd Tyler flwyddyn mewn diwydiant dramor ym Morneo fel rhan o'r cwrs BSc mewn Sŵoleg Rhoddodd fy mlwyddyn mewn diwydiant gyfle anhygoel i weithio ymysg yr orang-wtanod gwyllt, pangolinod gwyllt, llewpartiaid brithion a chathod llewpart. Os wyt yn cael y cyfle i fynd dramor, cer amdani! Bydd y sgiliau y byddi’n eu datblygu'n amhrisiadwy. Enillais ddealltwriaeth well o'r ffordd y mae peirianneg yn cael ei haddysgu a'i harddangos yn yr UDA o'i chymharu ag arferion cyffredin yn Ewrop yr wyf yn gyfarwydd â nhw. Roedd fy semester dramor ym Mhrifysgol A&M Texas yn gyfle i mi brofi cynifer o bethau newydd, rhwydweithio a meithrin ffrindiau newydd. Cwblhaodd Niraj semester dramor yn yr UDA fel rhan o gwrs BEng Peirianneg Awyrofod Penderfynais i gymryd rhan oherwydd roeddwn am wella fy hyder a fy sgiliau cyfathrebu. Rhoddodd y rhaglen Think Pacific y cyfle imi hyfforddi chwaraeon gwahanol yn Fiji. Fel myfyriwr gwyddor chwaraeon a rhywun sy'n dwlu ar hyfforddi, roedd hwn yn gyfle gwych i ddatblygu fy sgiliau hyfforddi. Treuliodd Romari (BSc mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff) fis yn Fiji dros yr haf, yn gwirfoddoli gyda Think Pacific

39

Made with FlippingBook Annual report maker