ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael RHAGOLYGON GRADDEDIGION (Complete University Guide 2022) 12 YN Y DU FED

CYFRIFIADUREG CAMPWS Y BAE

Mae Cyfrifiadureg yn effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau ac mae gan Brifysgol Abertawe rôl flaenllaw yn yr arloesi technolegol sy’n ailddiffinio’r ffordd rydym yn byw, yn dysgu ac yn gweithio. Bydd ein graddau yn dy addysgu’n barod ar gyfer amrediad eang o yrfaoedd arbenigol iawn gan gynnwys peirianneg meddalwedd, data mawr/ gwyddor data, dadansoddi diogelwch, technolegau symudol a newydd.

Gall gradd Cyfrifiadureg o Brifysgol Abertawe dy helpu i ddod o hyd i dy le mewn tirwedd dechnolegol sy'n newid yn barhaus. Yn ystod y cwrs gradd, byddi di’n dysgu sut i nodi'r ffyrdd cywir o ddatrys problemau a mesur eu heffeithlonrwydd. Byddi di’n cael dy addysgu yn ein hadeilad Ffowndri Gyfrifiadurol wych sy'n werth £32.5 miliwn ac sy'n darparu cyfleusterau addysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf a labordai arbenigol gan gynnwys labordy llun a biometrig, labordy gwneuthurwyr, labordy techhealth, labordy theori, labordy seiberddiogelwch, ac ystafell ddelweddu. Bydd hefyd yn cynnwys gosodiadau, cyfarpar, dyfeisiau a phrototeipiau arbrofol o'r radd flaenaf er mwyn arloesi'n gyflymach. Byddi di’n cael cyfle i ddysgu am y cyfleusterau hyn a gweithio â nhw. Mae llawer o’n myfyrwyr sy’n dewis gwneud y Flwyddyn mewn Diwydiant yn ennill lleoliad gwaith gwerthfawr ac yn datblygu eu sgiliau cyfrifiadurol a’u hymwybyddiaeth fasnachol yn yr amgylchedd gwaith.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyfrifiaduron a Chymdeithas • Cysyniadau Cyfrifiadureg • Datblygu Meddalwedd • Modelu Systemau Cyfrifiadura GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Dadansoddwr Seiberddiogelwch • Datblygwr Rhaglenni Symudol • Dylunydd/Peiriannydd/Profwr Meddalwedd • Gwyddonydd Data • Peiriannydd Dysgu Peirianyddol • Peirianneg Meddalwedd • Rhaglennu Datganiadol • Rhyngweithio Rhwng Pobl a Chyfrifiaduron • Systemau Cronfa Ddata Blynyddoedd 3 a 4 • Cryptograffeg a Diogelwch TG • Data Mawr a Dysgu Peirianyddol • Deallusrwydd Artiffisial a Seiberddiogelwch • Entrepreneuriaeth ar Waith • Manylebu a Datblygu Prosiectau • Profi Meddalwedd • Prosiect Traethawd Hir • Ysgrifennu Appiau Symudol • Rhaglennu Blwyddyn 2 • Cydamseredd

CYNNIG NODWEDDIADOL: BSc: ABB-BBB MEng/MSci: AAB-ABB (gan gynnwys Gradd B (6) mewn TGAU Mathemateg o leiaf)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Cyfrifiadureg ♦ Cyfrifiadureg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ♦ C yfrifiadureg (gyda Blwyddyn Sylfaen) ▲ Peirianneg Meddalwedd ♦ Peirianneg Meddalwedd (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ▲ P eirianneg Meddalwedd Cymhwysol (gradd prentisiaeth) - am fanylion llawn, gweler ein gwefan BSc Cydanrhydedd Cyfrifiadura ac ▲ Addysg ♦ A ddysg (gyda Blwyddyn Dramor) BSc Cydanrhydedd Cyfrifiadureg ▲ Mathemateg MEng Anrhydedd Sengl ♦ Cyfrifiadura H Cyfrifiadura (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) MSci Anrhydedd Sengl ♦ Cyfrifiadureg H Cyfrifiadureg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD H 5MLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

Mae achrediadau'n cynnwys:

83

Made with FlippingBook Annual report maker