ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

SUT RYDYN YN

BODDHAD ADDYSGU UCHAF YN Y DU 25

Yma ym Mhrifysgol Abertawe rydyn ni'n ymrwymo i gynnig y profiad dysgu ac addysgu gorau i ti.

(Guardian University Guide 2022)

DYSGU HYBLYG Rydyn ni'n falch o gynnig profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r ymagweddau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, sydd wedi cael eu teilwra'n ofalus i gydweddu ag anghenion penodol dy gwrs. Rydyn ni'n gwerthfawrogi pwysigrwydd addysgu wyneb yn wyneb a byddwn ni'n sicrhau bod hyn ar gael i bob myfyriwr yn unol â chanllawiau'r llywodraeth a allai fod ar waith. Fodd bynnag, mae ein hymagwedd hefyd yn cynnwys defnyddio cymorth ar-lein i ategu ac atgyfnerthu addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol. Cynhelir sesiynau sgiliau ymarferol, gwaith mewn labordai, seminarau a

gweithdai gan amlaf ar ffurf wyneb yn wyneb, gan alluogi pobl i weithio mewn grwpiau ac arddangosiadau. Rydyn ni hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac amgylcheddau dysgu efelychol a fydd yn hwyluso rhagor o fynediad at gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol. Gellir cynnal dysgu ar-lein 'yn fyw' drwy ddefnyddio meddalwedd megis Zoom, gan dy alluogi i ryngweithio â'r darlithydd a'r myfyrwyr eraill ac i ofyn cwestiynau. Caiff y darlithoedd eu recordio er mwyn galluogi'r rhai sy'n cael anawsterau wrth gael mynediad atynt i ddal i fyny 'ar gais'. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol yn Canvas, megis

fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi rhagor o hyblygrwydd wrth astudio. Ni waeth beth a fydd yr addysgu ar-lein neu wyneb yn wyneb, byddwn ni'n sicrhau y byddi di'n cael cyfle i adnabod dy academyddion yn dda, ac i gael trafodaethau bywiog â dy gyfoedion er mwyn dyfnhau dy wybodaeth a gwella dy ddealltwriaeth o dy bwnc. Nod ein hymagwedd wedi'i haddasu at ddysgu ac addysgu yw gwella dy brofiad fel myfyriwr, gan roi rhagor o hyblygrwydd i ti, yn ogystal â chadw'r holl ansawdd rwyt ti’n ei ddisgwyl gan addysg mewn prifysgol.

08

Made with FlippingBook Annual report maker