ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

CYMORTH ACADEMAIDD A BUGEILIOL

DYSGU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG Rydyn ni'n falch o fod yn sefydliad Cymreig, ac rydyn ni'n cynnig y dewis o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a cheir darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob Cyfadran. Ceir cyrsiau gradd a addysgir yn llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, cyrsiau lle cynigir rhai modiwlau yn Gymraeg, ac mae'n bosib mewn rhai adrannau y bydd rhai seminarau a thiwtorialau cyfrwng Cymraeg ar gyfer modiwlau a addysgir yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg. Mae Prifysgol Abertawe'n gweithio mewn partneriaeth â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae cangen y Brifysgol yn Academi Hywel Teifi. Canolfan ragoriaeth ar gyfer astudio'r Gymraeg yw Academi Hywel Teifi, sy'n rhoi cefnogaeth a chyngor i fyfyrwyr sydd am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i gymdeithasu â siaradwyr Cymraeg eraill. abertawe.ac.uk/academi-hywel-teifi

Mae Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS) yn darparu cymorth academaidd a bugeiliol cynhwysol ar gyfer ein poblogaeth amrywiol o fyfyrwyr. Gan weithio gyda chydweithwyr ym mhob rhan o'r Brifysgol, mae SAILS yn sicrhau bod dysgu, addysgu ac asesu cynhwysol o fewn cyrraedd pob myfyriwr, dy fod ti'n cael mynediad at y cyfleoedd sydd ar gael, a dy fod ti'n cael dy gefnogi i wireddu dy botensial llawn.

abertawe.ac.uk/academi-cynwysoldeb

Y GANOLFAN LLWYDDIANT ACADEMAIDD

Bydd y Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn dy helpu i ddatblygu dy sgiliau astudio academaidd er mwyn cyflawni dy nodau. Gelli di wireddu dy botensial llawn a magu hyder drwy amrywiaeth o gyrsiau, gweithdai a thiwtorialau un i un, gan dy helpu i bontio'r bwlch rhwng dy sefyllfa ar hyn o bryd a'r hyn rwyt ti am ei gyflawni. abertawe.ac.uk/llwyddiant-academaidd

CYMORTH ADDYSGU YCHWANEGOL Rydyn ni'n deall ei bod hi'n gallu bod yn anodd ymgyfarwyddo ag astudio mewn prifysgol, felly rydyn ni'n cynnig cymorth ychwanegol amrywiol drwy ein hacademïau, yn ogystal â darpariaeth dy Gyfadran. Rydyn ni'n ymrwymedig i alluogi pob myfyriwr i gael mynediad, gan dy helpu i ffynnu yn dy astudiaethau. Rydyn ni'n cynnig cymorth amrywiol, gan gynnwys gwneud trefniadau arbennig ar gyfer asesiadau, darparu cyfarpar ychwanegol a gwasanaethau llyfrgell. Mae ein Canolfan Drawsgrifio yn darparu deunyddiau cwrs a llyfrgell mewn sawl fformat, gan gynnwys testun electronig, print bras, braille, ffeiliau PDF hygyrch, diagramau y gellir eu teimlo, llyfrau sain DAISY yn ogystal â thrawsgrifiadau print o recordiadau sain. Yn ogystal, mae timau gwybodaeth i fyfyrwyr a chydlynwyr anabledd ym mhob Cyfadran. abertawe.ac.uk/gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr

09

Made with FlippingBook Annual report maker