ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

MEDDWL AM

GYRFAOEDD, SGILIAU, CYFLOGADWYEDD AC ENTREPRENEURIAETH

Rydyn ni'n helpu ein myfyrwyr i gyflawni’r gyrfaoedd maent yn eu haeddu. Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o leoliadau gwaith a chyngor gyrfaol trwy ei thîm gyrfaoedd a menter ymroddedig, yn ogystal â ffeiriau gyrfaoedd, gweithgareddau entrepreneuraidd a digwyddiadau rhwydweithio â chyn-fyfyrwyr rheolaidd, i dy helpu i ddechrau dy fusnes dy hun neu ddod o hyd i waith ar ddiwedd dy astudiaethau.

EDRYCH AM Y SYMBOL ar dudalennau’r cwrs ar gyfer rhaglenni gradd sy’n cynnwys cyfle lleoliad gwaith neu interniaeth.

CREU GRADDEDIGION CYFLOGADWY AC ENTREPRENEURAIDD Mae cyflogwyr yn chwilio am lawer mwy na gradd wrth ddewis pa raddedigion i’w cyflogi. Bydd ennill profiad a datblygu sgiliau yn y brifysgol yn rhoi mantais gystadleuol i ti. Gall ein tîm arobryn, Academi Cyflogadwyedd Abertawe dy helpu i: • Ennill gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaol diduedd gan ymgynghorwyr gyrfaoedd cymwys. • Dod o hyd i interniaeth, lleoliad, gwaith rhan-amser, swydd i raddedigion neu rôl gwirfoddoli. • Ymgysylltu â chyflogwyr trwy ein ffeiriau gyrfaoedd, digwyddiadau cyflogwyr a sesiynau hyfforddi/ hyfforddi sgiliau. • Datblygu dy CV, sgiliau cyfweld ac ymwybyddiaeth fasnachol/ hunanymwybodol. • Ymgysylltu â mentor cyn-fyfyrwyr.  abertawe.ac.uk/astudio/ cyflogadwyedd

BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT Rho hwb i dy yrfa drwy dreulio blwyddyn mewn diwydiant fel rhan o dy radd. Mae llawer o’n rhaglenni gradd yn cynnwys cyfle i weithio am flwyddyn mewn diwydiant fel rhan o’r cwrs, gan ddarparu profiad gwerthfawr a chyfle i roi damcaniaeth ar waith a chael dy dalu ar yr un pryd. Mae hyn yn rhoi mantais i ti wrth ddechrau ar lwybr gyrfa ac mae’n edrych yn wych ar dy CV. Am fanylion llawn y rhaglenni sy’n cynnig blwyddyn mewn diwydiant, gwiria dudalennau cyrsiau unigol.  abertawe.ac.uk/israddedig/ cyrsiau PARTH BWRDD SWYDDI 'R CYFLOGAETH DIGIDOL Drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe, rydyn yn cysylltu cyflogwyr â myfyrwyr a graddedigion diweddar o bob disgyblaeth ar gyfer interniaethau pedair wythnos ar lefel raddedig. Hysbysebir yr holl rolau ar ein Parth bwrdd swyddi'r Cyflogaeth digidol a bydd ein tîm ymroddedig yma yn dy gefnogi drwy broses y lleoliad gwaith. Mae interniaethau ar gael drwy gydol y flwyddyn, mewn amrywiaeth enfawr o feysydd pwnc. Rydyn hefyd yn cynnal

Rhaglen Interniaethau Prifysgolion Santander sy’n darparu profiad gwaith cyflogedig i fyfyrwyr a graddedigion diweddar, mewn busnesau bach a chanolig a sefydliadau trydydd sector lleol. CYMORTH PWRPASOL • Ennill gydnabyddiaeth yn dy Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch ar ôl cwblhau'r Cwrs Datblygu Gyrfa. • Mae bwrsariaethau cyflogadwyedd yn gallu helpu gyda chostau fel teithio i gyfweliadau swydd, offer ar gyfer gweithio o bell, gwisg busnes a thebyg. • Gwaith rhan-amser, ar y campws ac o bell, â thâl i fyfyrwyr drwy’r Cynllun Myfyrwyr Llysgennad. • Bwrsariaethau Hyfforddi Santander - gwna gais am hyd at £500 i dalu cost hyfforddiant sy'n gysylltiedig â chyflogadwyedd. • I fyfyrwyr sy’n wynebu rhwystrau

i waith, mae rhaglen profiad gwaith ar gael drwy raglen Go Wales: abertawe.ac.uk/astudio/ cyflogadwyedd/go-wales



@SwanseaUniSea

10

Made with FlippingBook Annual report maker