ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

CYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR:

Found from website recreated PMS

Y TÎM MENTERGARWCH

Gall y tîm Mentergarwch dy helpu i ddatblygu dy sgiliau, cael profiad gwerthfawr a rhoi dy syniadau ar waith drwy ein hystod o wasanaethau, gan gynnwys: gweithdai, cystadlaethau, cynlluniau a mentora busnes, ar y cyd â phartneriaid busnes â phrofiad helaeth o’r byd masnachol.

enterprise@abertawe.ac.uk

myuni.abertawe.ac.uk/cyflogadwyedd-menter/menter-myfyrwyr

Gwnaeth Josh gymryd rhan yn nigwyddiad blynyddol The Big Pitch sy’n cael ei gynnal gan y Tîm Mentergarwch ac enillodd £3000 i’w fusnes!

Sefydlwyd gan Joshua ym mis Mawrth 2020, mae Letzee yn fusnes sy’n cynnig teithiau rhithwir 3D o eiddo i ddarpar denantiaid, gan alluogi landlordiaid i ddangos eu heiddo i ragor o ddarpar denantiaid heb orfod fod yn bresennol ar y pryd. Mae Letzee hefyd yn creu teithiau rhithwir 3D o fannau masnachol, megis teithiau o loriau siopau, swyddfeydd a llawer mwy. Pan ofynnwyd iddo am gynnal busnes ochr yn ochr â’i astudiaethau, meddai Josh: Mae lefel y cymorth gan y Brifysgol wedi bod yn anhygoel. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb ac os hoffet ti siarad â fi am bethau, mae croeso i ti gysylltu. Rwy'n annog pawb i gadw llygad am ap a gwefan Letzee eleni, ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol ac ymuno â ni wrth drawsnewid y broses o ddod o hyd i dŷ rhent! O ran cydbwyso’r busnes â’m hastudiaethau, rhaid i fi fod yn gynhyrchiol gyda fy amser a gwneud yn siŵr fy mod i ar y blaen i fy amserlenni. Pryd bynnag y bydda i’n teimlo’n rhy brysur, bydda i’n camu nôl ac yn ceisio edrych yn gadarnhaol ar yr hyn rwyf wedi’i gyflawni hyd yn oed cyn mynd i Benrhyn Gŵyr i syrffio er mwyn clirio fy mhen! Mae Joshua wedi cael ei enwebu fel cynnig Prifysgol Abertawe ar gyfer Gwobrau Darpar Entrepreneuriaid Prifysgolion Santander 2021. Joshua Blackhurst Sefydlwyd Letzee ym mis Mawrth 2020

11

Made with FlippingBook Annual report maker