ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

Ymuna â’n

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni’n hynod o falch o’n graddedigion. Pan fyddi di’n astudio gyda ni, byddi di’n ymuno â miloedd o gyn-fyfyrwyr sydd wedi defnyddio eu profiadau yn Abertawe i osod eu marc ar y byd. Mae llawer ohonynt wedi mynd ati i brofi llwyddiant yn eu gyrfaoedd, gan ddod yn arweinwyr busnes, yn bencampwyr chwaraeon, cynnal ymchwil sy’n torri tir newydd, neu ddod o hyd i’w lle yng ngolwg y cyhoedd. Rydyn ni’n rhannu rhai o’u straeon ysbrydoledig yma.

DR KATE EVANS, BSc Sŵoleg. Blwyddyn Graddio 1996. ECOLEGYDD YMDDYGIAD A BIOLEGYDD CADWRAETH AROBRYN. SEFYDLYDD A CHYFARWYDDWR ELEPHANTS FOR AFRICA. “Nid oeddwn yn sicr ai addysg bellach oedd y llwybr cywir i mi. Yn ffodus cefais fy hun yn amgylchedd diogel Prifysgol Abertawe ar gwrs yr oeddwn yn dwlu arno ac yn rhagori ynddo, Swôleg.” Sefydlodd Kate yr elusen gadwraeth – Elephants for Africa, sy’n defnyddio dull cyfannol at gadwraeth eliffantod, gan ganolbwyntio llawer o’i gwaith yn Botswana, sy’n gartref i’r boblogaeth fwyaf o eliffantod. abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/ proffiliau-cyn-fyfyrwyr/kate-evans

“Roeddwn i'n gwybod bod gan Brifysgol Abertawe adrannau Cymraeg a Gwleidyddiaeth gwych, felly roeddwn i eisiau astudio yno er mwyn cael fy nysgu gan y gorau. Hefyd, roedd apêl Penrhyn Gŵyr a’r traethau gerllaw yn atyniad enfawr. Ym Mhrifysgol Abertawe y tyfodd fy hyder fel dysgwr Cymraeg. Rwy’n cofio’r cawr o ddarlithydd, Yr Athro Hywel Teifi Edwards, yn ein hannog ni i gyd i ddefnyddio ein sgiliau llafar Cymraeg. Ni welodd unrhyw wahaniaeth rhwng myfyrwyr Cymraeg ‘iaith gyntaf’ a ‘dysgwyr ail iaith’. A dyna lle y cafodd fy hyder ei feithrin.”

JASON MOHAMMAD, BA Cymraeg a Gwleidyddiaeth. Blwyddyn Graddio 1996. CYFLWYNYDD RADIO A THELEDU.

abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/proffiliau-cyn-fyfyrwyr/jason-mohammad

SIWAN LILLICRAP, BSc Gwyddor Chwaraeon. Blwyddyn Graddio 2009. CHWARAEWR RYGBI RHYNGWLADOL, PENNAETH RYGBI YN ABERTAWE. "Rydw i wedi cwrdd â’m ffrindiau gorau drwy rygbi, ac mae e wedi dysgu cymaint i mi am fywyd: disgyblaeth, angerdd, ymrwymiad, cymhelliad, a chymaint mwy. Mae e wedi rhoi cymaint o lawenydd i mi yn fy mywyd ar y cae ac oddi arno, a fyddwn i ddim yn newid dim byd. Byddwn i’n dweud, paid â rhoi pwysau ar dy hun; bydd pawb yn cyflawni pethau gwahanol ond y peth pwysig yw cael amser rhagorol gyda ffrindiau.” abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/proffiliau-cyn-fyfyrwyr/siwan-lilicrap

12

Made with FlippingBook Annual report maker