ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

Gweld mwy o straeon cyn-fyfyrwyr ar ein gwefan:

abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/proffiliau-cyn-fyfyrwyr

OWEN EVANS, BSc Economeg. Blwyddyn Graddio 1991. PRI F WEI THREDWR, STRATEGYDD, YMGYNGHORYDD. “Rwy’n cofio campws hapus, darlithwyr cyfeillgar, tref gyfeillgar, y traeth, aros am fws yn y glaw yn y Quadrant, gweld y Manic Street Preachers yn yr haul ym Mharc Singleton, trio meddwl sut i ddod adre o’r Mwmbwls ar ôl noswaith allan, rygbi yn San Helen a’r Gym Gym (Y Gymdeithas Gymraeg) ar brynhawn Mercher. Atgofion melys. Fe wnes i fwynhau fy amser yn Abertawe ond fe ges i’r fraint o addysg uwch – o gwrdd â phobl o bob cefndir a dysgu am bwnc diddorol. Fe ges i gyfle i feddwl ac aeddfedu mewn amgylchiadau hapus ond cael fy herio hefyd yn academaidd." abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/ proffiliau-cyn-fyfyrwyr/ owen-evans

RAWAN TAHA, MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd. Blwyddyn Graddio 2018.

DAVID SMITH, MEng Peirianneg Awyrofod. Blwyddyn Graddio 2014. MEDALYDD AUR PARALYMPAIDD "Roeddwn i am astudio Peirianneg Awyrofod ac roedd staff y cwrs, yr awyrgylch cyffredinol a’r traeth yn brif atyniadau. Rhai o’m hoff atgofion yw’r teithiau astudio a oedd yn cynnwys hedfan megis y labordy hedfan yn Cranfield neu hedfan o gwmpas Penrhyn Gŵyr." Wedi derbyn ei fedal aur Baralympaidd gyntaf ychydig cyn wythnos y glas yn Abertawe, mae David, Pencampwr y Byd a Pharalympaidd, yn anelu at fod yn bencampwr yng nghamp Boccia ac enillodd ei bumed medal

DEILIAD YSGOLORIAETH EIRA FRANCIS DAVIES. CYMRAWD MATERION DYNGAROL. YMGYRCHYDD YN ERBYN NEWID HINSAWDD. “Fel menyw Affricanaidd

ysgolheigaidd ifanc, roeddwn i’n chwilio am brifysgol a oedd yn darparu cyfleoedd i arweinwyr ifanc fel fi. Fy nghyngor i fyfyrwyr presennol yw i ddefnyddio eu hamser yn y Brifysgol i ddatblygu y tu hwnt i’w gradd, eu traethawd a’u trawsgrifiadau. Dim ond wedyn fyddi di'n gallu ennill swydd a chael bywyd sydd y tu hwnt i dy ddisgwyliadau." abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/ proffiliau-cyn-fyfyrwyr/ rawan-taha

Olympaidd yn y Gemau Olympaidd Tokyo 2021.

 abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/ proffiliau-cyn-fyfyrwyr/ david-smith

NIA PARRY, BA Sbaeneg a Chymraeg. Blwyddyn Graddio 1996. EIRIOLWR BRWD DROS YR IAITH GYMRAEG, DARLLEDWR AC ADRODDWR STRAEON.

“Mae fy atgofion o fod yn fyfyrwraig yn y Brifysgol yn rhai hapus iawn. Yn academaidd – dw i'n teimlo fel fy mod wedi dysgu a blodeuo a datblygu syniadau newydd a thrin a thrafod a bwydo'r angerdd oedd gen i tuag at ein hiaith a'n diwylliant a'n hanes. Yn gymdeithasol dw i'n cofio'r hwyl a'r chwerthin, y barbeciws ar lan y môr, y gemau pêl-rhwyd, y Mumbles Mile, Parc Singleton yn yr hydref yn ei liwiau euraidd.”

abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/proffiliau-cyn-fyfyrwyr/nia-parry

13

Made with FlippingBook Annual report maker