ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

ABERTAWE A’R

Bannau Brycheiniog, Cymru

Dwi wrth fy modd gyda marchnad dda ac wrth lwc, dwi’n byw yn Uplands sydd â marchnad fisol, lle mae tyfwyr, cynhyrchwyr, ffermwyr ac arlwywyr lleol yn gwerthu eu nwyddau. Mae hon yn farchnad fach hyfryd, felly os wyt yn dwlu ar fwyd a phethau tlws fel fi, mae’n werth ymweld â hi! Joanna Wolton, myfyriwr sy’n ysgrifennu blog AR GARREG Y DRWS Ar Benrhyn Gŵyr, cei lonydd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y Deyrnas Unedig, ymlacio ar draethau arobryn ac archwilio harddwch naturiol cefn gwlad, ac mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 30 munud i ffwrdd yn unig yn y car. Mae’r rhanbarth yn cynnig rhai o leoliadau gorau’r DU ar gyfer cerdded ar lwybrau arfordirol, syrffio, beicio, chwaraeon dŵr, dringo creigiau a golff; i’r rhai sy’n mwynhau chwaraeon antur, neu os yw’n well gen ti dro hamddenol ar y traeth, mae rhywbeth at ddant pawb. Y MWMBWLS Man geni Catherine Zeta Jones, mae pentref pert y Mwmbwls yn cynnig amrywiaeth gwych o siopau, caffis, bariau gwin, tafarnau a bwytai. Cer am dro a mwynhau hufen iâ yn un o’r parlyrau niferus ar hyd y promenâd, neu beth am alw yn un o’r bwytai a chaffis glan môr newydd â golygfeydd dros Fae Abertawe.

studentblogs.swan.ac.uk/cy/

14

Made with FlippingBook Annual report maker