ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

Y CELFYDDYDAU Mae Abertawe’n ganolfan fywiog ar gyfer celf ac mae Oriel Glynn Vivian yn cael ei chydnabod yn eang fel prif leoliad arddangosfeydd celf yn y ddinas. Mae mynediad am ddim i holl amgueddfeydd ac orielau celf cenedlaethol Cymru, felly gelli ymdrochi yn ein hanes, neu gymryd rhan yn un o’r teithiau niferus sy’n cael eu trefnu gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. CANOLFAN Y CELFYDDYDAU TALIESIN Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton yn dangos ffilmiau’n rheolaidd, rhai poblogaidd a rhai mwy amgen eu natur. Mae ganddi gaffi a bar ac yma ceir y Ganolfan Eifftaidd arobryn sy’n gartref i gasgliad o dros 5,000 o arteffactau o’r Hen Aifft.

SIOPA Gelli di ddewis o siopau a brandiau mawr y stryd fawr a siopau bach annibynnol, siopau arbenigol ac arcedau traddodiadol. Gelli ymweld â siopau dillad dylunwyr yn y Mwmbwls, siopa am ddillad yr oes a fu yn Uplands, neu godi cynnyrch o Gymru ym marchnad dan do fwyaf Cymru yng nghanol y ddinas.

CERDDORIAETH A GWYLIAU Mae Cymru’n enwog fel ‘gwlad y gân’ ac fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, chei di ddim dy siomi gan y dewis o gerddoriaeth sydd ar gael yn y ddinas! Mae gan Abertawe amrywiaeth enfawr o leoliadau cerddoriaeth ac mae nifer o wyliau a digwyddiadau cerddorol yn cael eu cynnal yma drwy gydol y flwyddyn. Mae Arena Abertawe newydd sbon bellach ar agor ac mae ganddo rai enwau mawr eisoes ar gyfer 2022 gan gynnwys John Bishop a Kathryn Ryan!

CARTREF I DYLAN THOMAS Fel y dywedodd mab enwocaf Abertawe, Dylan Thomas: “Abertawe yw’r gorau o hyd”, a gelli ddilyn olion traed y bardd ledled y ddinas, o gaffis i dafarnau a pharciau.

Delweddu pensaernïol

15

Made with FlippingBook Annual report maker