ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

Mae Prifysgol Abertawe yn un o’r prifysgolion mwyaf agos at y môr ac mae hyn yn dod â nifer o gyfleoedd chwaraeon fel syrffio a nofio ac mae hi mor llesol cerdded neu eistedd ar y traeth a’r golygfeydd ffantastig. Yn ogystal â bod wrth yr arfordir, mae Campws Singleton yn rhan o'r Parc lle mae gerddi blodeuog a golygfeydd prydferth a llawer o ddigwyddiadau hefyd. Mae astudio yma yn bleser gan fod safon y dysgu yn ardderchog; mae gan y Brifysgol wobr aur am ddysgu ac mae’r darlithwyr yn barod i helpu a chefnogi drwy ateb unrhyw gwestiwn neu ansicrwydd. Mae ymdeimlad o gymuned yma ym Mhrifysgol Abertawe. Rydw i’n astudio Geneteg Feddygol, felly’n edrych ar driniaethau a rheolaeth afiechydon. Mae’r cwrs yn cyffwrdd ar amrywiaeth o bynciau fel Imiwnoleg, Sgiliau i Ymchwilwyr a Bioleg Celloedd Ewcaryotig. Mae astudio yn Abertawe wedi bod yn brofiad gwahanol i mi oherwydd dechreuais yn ystod Covid-19 ond rydw i wedi cael mwy o ddarlithoedd a gweithdai wyneb yn wyneb ar y campws eleni a bob amser yn edrych ymlaen atynt. Fy hoff bwnc ar fy nghwrs hyd yma yw Imiwnoleg a Ffisioleg Ddynol. Rydw i’n hoff iawn o ddysgu am systemau’r corff a sut mae triniaethau'n gweithio a thrin amrywiaeth o glefydau a hefyd sut mae’r corff yn ymateb i’r driniaeth. Wrth astudio elfennau o fy nghwrs yn y Gymraeg, rydw i’n parhau i ddefnyddio’r iaith ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae defnyddio’r iaith mewn ffordd ffurfiol ac anffurfiol yn bwysig iawn i mi fel Cymraes. Yn y dyfodol hoffwn weithio yn uniongyrchol gyda chleifion ac mae’r ffaith fy mod yn gallu siarad Cymraeg a Saesneg yn hyderus yn ddefnyddiol iawn. Mae’n bwysig i gleifion gael yr opsiwn i drafod materion sensitif yn yr iaith maent yn fwyaf cyfforddus i’w defnyddio. Mae yna lawer o gefnogaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. I ddechrau mae Academi Hywel Teifi a Changen y Coleg Cymraeg yn cynnig cefnogaeth i astudio yn y Gymraeg. Mae hefyd cefnogaeth ar gael gan Fentoriaid Academaidd sydd yn siarad Cymraeg ac mae’r grwpiau dysgu yn dueddol o fod yn llai sy'n rhoi’r hyder i bobl holi cwestiynau a mynegi barn. Rydw i hefyd yn derbyn ysgoloriaeth Academi Hywel Teifi a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan fy mod i’n astudio fy nghwrs yn y Gymraeg. Rydw i wedi cael profiad anhygoel o fewn y gymuned Gymraeg yn y Brifysgol. Rydw i’n rhan o’r Gymdeithas Gymraeg sydd yn llawer o sbri. Enw'r gymdeithas yw'r Gym Gym. Rydyn yn cwrdd bob pythefnos ac yn gwneud amryw o weithgareddau sy’n gyfle arbennig i gymdeithasu. Yn fy mlwyddyn gyntaf dewisais fyw mewn llety Cymraeg ar y campws. Rydw i mor ddiolchgar am y cyfle yma oherwydd roedd hyn wedi sicrhau fy mod i gyda chyfoedion sy’n rhannu’r gallu i siarad yr un iaith sydd yn rhoi ymdeimlad cartrefol mewn amgylchedd hollol newydd. Mae hyn wedi fy ngalluogi i wneud ffrindiau sy’n siarad Cymraeg ac rydw i’n gallu defnyddio’r iaith yn gymdeithasol ac mewn darlithoedd.

BSc GENETEG FEDDYGOL I ddysgu mwy am ein storïau myfyrwyr, gweler:

a bertawe.ac.uk/astudio/ein-storiau-myfyrwyr

100

Made with FlippingBook Annual report maker