YSGOL FEDDYGAETH (Complete University Guide 2022) 1 YN Y DU AF
GENETEG FEDDYGOL CAMPWS PARC SINGLETON
Mae astudiaeth Geneteg Feddygol yn faes cyffrous sy’n symud yn gyflym ac yn cael effaith enfawr ar feddygaeth, gan ein helpu i ddeall, diagnosio a thrin llawer o glefydau dynol. Byddi di’n dysgu technegau ar gyfer dadansoddi mynegiad genynnau, y ffordd y mae proteinau yn rhyngweithio, strwythur DNA a’r difrod iddo, dadansoddi delweddau biomoleciwlau a chelloedd, a dulliau dadansoddol cyfrifiadurol uwch a derbyn gwybodaeth drwyadl i ti o’r blociau adeiladu hyn sy’n hanfodol ar gyfer bywyd.
Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael
Byddi di’n elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf, gan gynnwys offer dadansoddi DNA a phrotein, a dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog. Byddi di’n datblygu sgiliau dadansoddi a rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith. Rhaglen MSci Mae’r radd meistr israddedig integredig hon yn ychwanegu hyfforddiant arbenigol ychwanegol mewn ystod eang o dechnegau labordy ac yn datblygu prosiect ymchwil annibynnol estynedig uwch i'r rhaglen 3 blynedd BSc Geneteg Feddygol. Mae'r cwrs hwn yn rhoi cymhwyster lefel meistr i ti wrth dalu ffioedd dysgu israddedig ac mae'n ddelfrydol os wyt ti’n cynllunio ar yrfa mewn ymchwil. FEL ARFER MAE'R MODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Geneteg ac Esblygiad • Ffisioleg Ddynol • Genomeg Poblogaeth • Microbioleg Blwyddyn 2 • C lefydau Heintus • Geneteg Ddynol a Meddygol
Blwyddyn 3 • Biowybodeg • Imiwnopatholeg Ddynol • P eirianneg Meinwe a Meddygaeth Adfywiol • P rosiect Ymchwil Annibynnol Blwyddyn 4 (MSci yn unig) • Cyfathrebu Gwyddoniaeth • T raethawd Hir Prosiect Ymchwil Uwch
CYNNIG NODWEDDIADOL: BSc: AAB-BBB MSci: AAB (gan gynnwys Bioleg ac un pwnc STEM arall, Cemeg fel arfer)
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †
BSc Anrhydedd Sengl ▲ Geneteg Feddygol ♦ Geneteg Feddygol
(gyda Blwyddyn Sylfaen)
Llwybrau i Feddygaeth
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Cynhyrchion Fferyllol • Gwyddor Fforensig ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs MSci Anrhydedd Sengl ♦ Geneteg Feddygol Geneteg – gweler tudalen 98
Darllen ein canllaw pwnc yma:
• Proffesiynau Iechyd (ar ôl astudiaeth bellach) e.e. Meddyg, Cyswllt Meddyg, Deintyddiaeth neu Filfeddygaeth. • Tocsicoleg Geneteg
LLWYBR MEDDYGAETH I RADDEDIGION: Mae’r radd hon yn rhan
o’r rhaglen Llwybr Meddygaeth i Raddedigion. Cyn belled â dy fod yn bodloni’r gofynion mynediad, ac wedi dilyn y Llwybr Gwyddor Meddygaeth mewn Ymarfer, y modiwl Llwybr i Feddygaeth, gallwn dy warantu y cei gyfweliad ar gyfer ein cwrs MBBCh Meddygaeth i Raddedigion.
• Imiwnoleg Ddynol • Y stadegau Biolegol
99
Made with FlippingBook Annual report maker