ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

AMGYLCHEDD YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014) 1 YN Y DU AF

GENETEG CAMPWS PARC SINGLETON

Mae astudiaeth Geneteg yn faes cyffrous sy’n symud yn gyflym ac yn cael effaith enfawr mewn ystod o feysydd gwyddonol, gan gynnwys deall a thrin clefydau amrywiol, datblygu fferyllol, esblygiad, cadwraeth o fioamrywiaeth. Byddi di’n dysgu technegau ar gyfer dadansoddi mynegiad genynnau, y ffordd y mae proteinau yn rhyngweithio, strwythur DNA a’r difrod iddo, dadansoddi delweddau biomoleciwlau a chelloedd, a dulliau dadansoddol cyfrifiadurol uwch.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Byddi di’n elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf, gan gynnwys; offer dadansoddi DNA a phrotein, dadansoddwyr delweddau

FEL ARFER MAE'R MODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Bioleg Celloedd Ewcaryotig • E pigenetig, Rheoleiddio Genyn a Chlefyd • Geneteg ac Esblygiad • Genomeg Poblogaeth • Iechyd Digidol • Ynni a Metabolaeth Blwyddyn 2 • E sblygiad Moleciwlaidd • Geneteg Ddynol a Meddygol • Geneteg Foleciwlaidd Microbaidd • Technegau mewn Bioleg Foleciwlaidd • Y stadegau Biolegol Blwyddyn 3 • Biowybodeg • Datblygiad Anifeiliaid • P rosiect Ymchwil Annibynnol • Y mchwil Feintiol Blwyddyn 4 (MSci yn unig) • Cyfathrebu Gwyddoniaeth • P rosiect Ymchwil Annibynnol Uwch

CYNNIG NODWEDDIADOL: BSc: AAB-BBB MSci: AAB (gan gynnwys Bioleg ac un pwnc STEM arall, Cemeg fel arfer)

cyfrifiadurol a chyfleuster uwchgyfrifiadur pwerus.

Fe fyddi’n datblygu sgiliau dadansoddi a rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith. Mae cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol yn rhoi’r hyblygrwydd i ti deilwra dy radd i gyd-fynd â dy ddiddordebau penodol, dy amcanion o ran gyrfa, a dy gynlluniau ar gyfer astudio pellach. Mae rhaglenni cydanrhydedd hefyd ar gael gyda Biocemeg, sy’n cyfuno dwy ddisgyblaeth sy’n gydberthynol ac sy’n gorgyffwrdd. RHAGLEN MSci Mae’r radd meistr israddedig integredig hon yn ychwanegu hyfforddiant arbenigol ychwanegol mewn ystod eang o dechnegau labordy ac yn datblygu prosiect ymchwil annibynnol estynedig uwch i'r rhaglen 3 blynedd BSc Geneteg. Mae'r cwrs hwn yn rhoi cymhwyster lefel meistr i ti wrth dalu ffioedd dysgu israddedig ac mae'n ddelfrydol os wyt ti’n cynllunio ar yrfa mewn ymchwil.

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Geneteg ♦ Geneteg (gyda Blwyddyn Sylfaen) BSc Cydanrhydedd Geneteg a ▲ Biocemeg ♦ Biocemeg (gyda Blwyddyn Sylfaen)

MSci Anrhydedd Sengl ♦ Geneteg MSci Cydanrhydedd Geneteg a ♦ Biocemeg

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Cynorthwyydd Ymchwil Ôl-ddoethurol • Gwyddonydd Fforensig • Gwyddonydd Gofal Iechyd dan Hyfforddiant (GIG) • Gwyddonydd Ymchwil Biofeddygol • Tocsicolegydd Geneteg Geneteg Feddygol – gweler tudalen 99 ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

Darllen ein canllaw pwnc yma:

98

Made with FlippingBook Annual report maker