ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

ANSAWDD ADDYSGU (The Times and Sunday Times Good University Guide 2022) 4 YN Y DU YDD

FFISEG CAMPWS PARC SINGLETON

O wybodaeth gwantwm i ffiseg gronynnau ynni uchel; astroffiseg i ddamcaniaeth linynnol; o fater tywyll i ddisgyrchiant cwantwm; gwrthfater i laserau gorgyflym: bioleg gwantwm i'r genhedlaeth nesaf o led-ddargludyddion; ffiseg meddygol i ddysgu peiriannau. Drwy astudio Ffiseg yn Abertawe byddi di’n darganfod ehangder cyffrous y pwnc a newid dy ddyfodol.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael CYNNIG NODWEDDIADOL: BSc: ABB-BBB (gan gynnwys Ffiseg a Mathemateg) MPhys: AAB-ABB (gan gynnwys Ffiseg a Mathemateg)

Byddi di’n dysgu ac yn deall sut y defnyddir ffiseg sylfaenol ar draws pob disgyblaeth a bod gan hyn gysylltiadau a datblygiadau ym meysydd peirianneg, meddygaeth a thechnoleg. Mae ein dulliau addysgu yn seiliedig ar yr ymchwil ddiweddaraf, e.e. cysylltiadau ymchwil gyda CERN a Gwaith gwerthfawr Cydweithrediad ALPHA ar wrthfater. Mae ein hystod eang o brosiectau BSc a meistr yn adlewyrchu diddordebau ymchwil yr adran ac yn cynnwys y posibilrwydd o brosiect Meistr yn CERN yn Genefa. Trwy ein cyfleusterau o'r radd flaenaf cei dy gyflwyno i waith ymchwil. P'un a yw'n ymwneud â dylunio'r dyfeisiau ffotofoltäig nesaf, arsylwi prosesau cyflym iawn gan ddefnyddio laserau neu ddefnyddio cyfrifiadura perfformiad uchel i fodelu mater cwarc dwys. Bydd gan fyfyrwyr MPhys y cyfle i

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Dynameg, Osciliadau a Thonnau • Mathemateg i Ffisegwyr • Seryddiaeth a Chosmoleg • Y Byd Cwantwm Blwyddyn 2 • Electromagnetig a Pherthnasedd Arbennig • Efelychu Ffiseg • Ffiseg Gronynnau • Ffiseg Ystadegol • Mecaneg Gwantwm Blwyddyn 3 • Addysgu Ffiseg drwy Leoliad mewn Ysgol • Ffiniau Ffiseg Niwclear • Prosiectau Damcaniaethol, Arbrofol a Chyfrifiadol Blwyddyn 4 (MPhys) • Ffiseg Cyseinedd Magnetig, Sbectrosgopeg NMR a MRI • Prosesu Gwybodaeth Gwantwm GYRFAOEDD YN Y DYFODOL*: • Awyrofod ac Amddiffyn • Ffisegwyr Meddygol • Gwyddonydd Niwclear • Gwyddonydd Ymchwil • Meteorolegwyr • Modelwr Ariannol Mae galw mawr ar ein graddedigion ffisegwyr mewn amrywiaeth o ddiwydiannau oherwydd eu galluoedd dadansoddol, mathemategol a meddwl beirniadol rhagorol.*

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Ffiseg ♦ Ffiseg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ♦ Ffiseg (gyda Blwyddyn Sylfaen) ▲ Ffiseg Ddamcaniaethol ♦ Ffiseg Ddamcaniaethol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant) ▲ Ffiseg gyda Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg MPhys Anrhydedd Sengl ♦ Ffiseg H Ffiseg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ♦ Ffiseg (gyda Semester Dramor) ♦ Ffiseg Ddamcaniaethol H Ffiseg Ddamcaniaethol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant) ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD H 5MLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

dreulio semester dramor ym Mhrifysgol Houston, UDA yn y semester gyntaf o'r drydedd flwyddyn.

Mae Ffiseg yn Abertawe yn cynnig llawer o bosibiliadau ochr yn ochr â chyfraddau boddhad myfyrwyr uchel yn gyson ac amgylchedd dysgu cynhwysol.

Mae achrediadau'n cynnwys:

• Prosiect Ymchwil Uwch • Theori Maes Cwantwm

I gydnabod yr Adran Ffiseg am ei hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb rhywiol a chynwysoldeb.

97

Made with FlippingBook Annual report maker