ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

YSGOL FEDDYGAETH (Complete University Guide 2022) 1 YN Y DU AF

FFERYLLIAETH CAMPWS PARC SINGLETON

Caiff gofal iechyd modern ei ddarparu gan dîm amlddisgyblaethol ac, yn gynyddol, mae fferyllwyr yn darparu gwasanaethau clinigol ehangach a newydd mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd. Mae ein gradd mewn Fferylliaeth yn cydnabod y rolau newydd ac uwch hyn ac yn cyfuno gwyddoniaeth ac ymarfer i baratoi myfyrwyr i fynd i'r afael â heriau tirwedd newidiol fferylliaeth.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael CYNNIG NODWEDDIADOL: ABB-BBB (gan gynnwys Cemeg ac un pwnc STEM arall. Os nad wyt ti'n meddu ar y pynciau gwyddoniaeth, cysyllta â ni i drafod mynediad)

Mae ein cwrs Fferylliaeth arloesol wedi'i gynllunio i adlewyrchu'r ffordd y mae fferyllwyr yn cynghori cleifion a sut mae gwyddoniaeth yn ategu gofal fferyllol. Byddi di’n elwa o'n profiad a'n harbenigedd mewn ymarfer clinigol, gwyddorau bywyd, ymchwil a hyfforddiant. Ar y cyd â phwyslais cryf ar sgiliau penderfynu clinigol a chyfathrebu, byddi’n datblygu'r rhinweddau academaidd, ymarferol a phersonol i fod yn gymwys ac yn hyderus wrth ymarfer fferylliaeth. Drwy gydol dy gwrs, byddi’n elwa o lefel uchel o brofiad clinigol strwythuredig ac addysgu mewn darlithoedd a'r labordy. Byddi di’n dysgu ar draws saith thema eang, pob un wedi'i hategu gan 'linyn digidol' a phroffesiynoliaeth fel Deallusrwydd Artiffisial, roboteg a data mawr: • Anatomeg a Ffisioleg • Bioleg a Biocemeg • Cemeg Fferyllol • Ffarmacoleg • Fferylliaeth Glinigol • Fferylleg • Ymarfer Fferylliaeth

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyffuriau a Meddyginiaethau • Iechyd, Clefydau a Chleifion • Ymarfer Fferylliaeth Blwyddyn 2 • Unedau Astudio Cyfunol: Systemau Corff, Clefydau a Chleifion Blwyddyn 3 • Dysgu sy'n Canolbwyntio ar y Claf • Modiwlau Opsiynal • Prosiect Ymchwil Estynedig Blwyddyn 4 • Cleifion a'r Boblogaeth • Paratoi ar gyfer Ymarfer ac Arweinyddiaeth Uwch

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Fferylliaeth Gymunedol • Fferylliaeth mewn Ysbyty • Gofal Sylfaenol, e.e. Fferyllydd mewn Meddygfa • Rheoleiddio Meddyginiaethau ♦ 4 BLYNEDD H 5 MLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs MPharm Anrhydedd Sengl ♦ Fferylliaeth H Fferylliaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) CYN-GOFRESTRU Ar ôl cwblhau gradd MPharm, bydd rhaid i raddedigion gymryd camau pellach cyn gallu cofrestru'n Fferyllydd. Mae'r camau hyn yn cynnwys blwyddyn o hyfforddiant cyn-gofrestru. Mae rhagor o fanylion am gofrestru ar gael ar www.pharmacyregulation. org/registration • Y Byd Academaidd • Y Diwydiant Fferylleg

Darllen ein canllaw pwnc yma:

96

Made with FlippingBook Annual report maker