ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

(Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2021) BODDHAD CYFFREDINOL YN Y DU 8 FED DAEARYDDIAETH FFISEGOL

GEOWYDDONIAETH AMGYLCHEDDOL CAMPWS PARC SINGLETON

Mae Geowyddoniaeth Amgylcheddol yn cyfuno astudio tirweddau ac amgylcheddau naturiol mewn daearyddiaeth ffisegol ag agweddau ar ddaeareg i edrych ar y prosesau ffisegol sy’n llunio ein planed a’r newidiadau sydd wedi effeithio ar amgylcheddau dros gyfnodau o ganrifoedd i gannoedd o filiynau o flynyddoedd. Mae ein lleoliad yn golygu ei bod hi'n hawdd cyrraedd lleoedd mor amrywiol â Phenrhyn Gwˆ yr, Bannau Brycheiniog, a thirweddau diwydiannol trefol De Cymru.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Rydyn yn cyfuno daearyddiaeth ffisegol gydag agweddau ar ddaeareg, sy'n dy alluogi i ymchwilio i brosesau sydd wedi llunio'r ddaear dros filiynau o flynyddoedd. Ochr yn ochr â gwybodaeth arloesol a meistroli cysyniadau allweddol, rydyn yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu gweithredol drwy waith maes. Gelli addasu dy radd i gyd-fynd â dy ddiddordebau drwy gynnwys amrywiaeth eang o fodiwlau daeareg a daearyddiaeth ddynol neu ffisegol. Byddwn yn sicrhau bod gen ti'r adnoddau proffesiynol a'r meddylfryd graddedig sydd eu hangen arnat er mwyn helpu i ddatrys rhai o'r 'heriau mawr' sy'n ein hwynebu heddiw. Mae'r asesiadau yn amrywiol ac yn integreiddiol, sy'n dy alluogi i feistroli sgiliau meddwl yn feirniadol, datrys

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i'r Ddaear: Trosolwg o Ddaeareg • Cynaliadwyedd • Gwyddor Daear yn y Maes • Peryglon Naturiol a Chymdeithas • Sgiliau Daearyddol Blwyddyn 2 • Amgylcheddau Rhewlifol • Cofnod Daearegol o Newid Amgylcheddol • Newid Amgylcheddol • Synhwyro o Bell • Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol Blwyddyn 3 • Hinsawdd y 1,000 o Flynyddoedd Diwethaf • Meteoroleg a Gwyddoniaeth yr Atmosffer • Rhewlifeg • Tectoneg Platiau a Geoffiseg Fyd-eang

CYNNIG NODWEDDIADOL: ABB-BBB (gan gynnwys Daearyddiaeth neu bwnc perthnasol)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Geowyddoniaeth Amgylcheddol ♦ Geowyddoniaeth Amgylcheddol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant) ♦  Daearyddiaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn arwain at BSc Geowyddoniaeth Amgylcheddol

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Addysgu • Asesiad Risg Yswiriant • Diwydiannau Cynhyrchu Ynni ac Ymgynghoriaeth • Gwaith Cadwraeth (Awdurdodau Lleol a Chyrff Anllywodraethol) • Peirianneg Ddaearegol • R heoli Amgylcheddol ac Adnoddau

problemau, arweinyddiaeth, entrepreneuriaeth a gweithio mewn tîm yn hyderus.

101

Made with FlippingBook Annual report maker