ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

IEITHOEDD MODERN, CYFIEITHU A CHYFIEITHU AR Y PRYD CAMPWS PARC SINGLETON

am dâl fel un o gynorthwywyr iaith y British Council neu astudio mewn prifysgol bartner LLEOLIAD GWAITH INTEGREDIG DRAMOR

Mae’r galw am gyfieithu a chyfieithu ar y pryd yn cynyddu’n gyflym wrth i ragor o gwmnïau, sefydliadau a phobl fasnachu’n fyd-eang ond gan ddisgwyl defnyddio gwasanaethau yn eu hiaith eu hunain. Yn ogystal â meithrin dy sgiliau iaith, byddi di'n meithrin gwybodaeth a sgiliau ymarferol a fydd yn dy baratoi ar gyfer gyrfa ym maes cyfieithu neu gyfieithu ar y pryd.

Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Bydd myfyrwyr sy’n dilyn y rhaglen radd hon yn astudio dwy iaith, y mae'n rhaid i o leiaf un ohonynt (Ffrangeg neu Sbaeneg) fod ar lefel uwch. Gellir astudio’r ail iaith (Almaeneg, Ffrangeg neu Sbaeneg) ar lefel dechreuwyr. Byddi di'n astudio'r theori a'r cysyniadau sy'n sail i gyfieithu a dehongli, a byddi hefyd yn ymarfer cyfieithu drwy gymorth cyfrifiadur, cyfieithu deialog, yn ogystal â chyfieithu proffesiynol ar gyfer byd masnach, llywodraethu, iechyd neu'r gyfraith. Er mwyn cefnogi dy astudiaethau, mae gennym labordai PC sydd â'r feddalwedd cyfieithu ddiweddaraf i'r diwydiant, cyfres ddehongli cynhadledd Televic newydd, mynediad i'n traciwr

• Gramadeg ac Ystyr wrth Gyfieithu a Dehongli • Modiwlau Iaith Gyffredinol Briodol • System Sain y Saesneg Blwyddyn 2 • Astudiaethau Geirfa • Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur • Cyflwyniad i Ddamcaniaeth Cyfieithu • Dehongli Deialog • Gweithdai Cyfieithu • Modiwlau Iaith Gyffredinol Briodol Blwyddyn 3 Yn ystod dy drydedd flwyddyn, fe fyddi di'n fanteisio ar y cytundebau sydd gennym gyda rhai o ysgolion cyfieithu enwocaf Ewrop. Ar hyn o bryd, mae gennym bartneriaid yn Alcalá de Henares, Barcelona, Bologna (Forli), Brwsel, Cologne, Granada, Genefa, Innsbruck, Mainz (Germersheim), Mons, Seville, Valencia, Valladolid, Vienna a Zurich. Mae gennym diwtor penodol ar gyfer y flwyddyn dramor i dy helpu bob cam o’r ffordd wrth drefnu’r flwyddyn bwysig hon. Blwyddyn 4 • Dehongli - Opsiwn Iechyd neu Opsiwn Llywodraeth Leol • Gweithdy Cyfieithu a Modiwlau ar gyfer Dibenion Proffesiynol • Lleoliad Gwaith Cyfieithu ar gyfer Myfyrwyr BA • Modiwlau Iaith Gyffredinol Briodol • Rheoli Terminoleg

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB (gan gynnwys o leiaf un Safon Uwch mewn iaith dramor fodern)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Cyfieithu • Cyfieithu ar y Pryd • Gwerthiant Rhyngwladol a Recriwtio Marchnata • Llywodraeth a Gwleidyddiaeth • Sefydliadau Busnes a Chyfreithiol BA Anrhydedd Sengl ♦ Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

llygaid, yn ogystal ag adnoddau llyfrgell print ac ar-lein rhagorol.

Byddi di hefyd yn astudio dramor am flwyddyn er mwyn datblygu dy iaith a dy dechnegau cyfieithu ymhellach a rhoi hwb i dy ragolygon gyrfa. Gall y radd hon agor drysau i yrfaoedd cyffrous yn y DU neu ledled y byd, fel cyfieithydd llawrydd sy'n gweithio gartref, cyfieithydd mewnol gydag asiantaeth neu yn adran gyfieithu cwmni neu sefydliad mawr. FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cysyniadau mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd

128

Made with FlippingBook Annual report maker