ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

CAMPWS PARC SINGLETON IEITHOEDD MODERN

am dâl fel un o gynorthwywyr iaith y British Council neu astudio mewn prifysgol bartner LLEOLIAD GWAITH INTEGREDIG DRAMOR

Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfleoedd i astudio rhwng un a thair iaith, gan dy helpu i ddod yn rhan o gymuned fyd-eang ac agor drysau i ystod eang o yrfaoedd. Y prif ieithoedd a gynigir fel rhan o’r rhaglen radd hon yw Almaeneg, Ffrangeg a Sbaeneg. Gellir ychwanegu at y rhain gyda modiwlau o lwybrau galwedigaethol arbenigol gyda sylw ar astudiaethau diwylliannol, addysgeg iaith, a chyfieithu a chyfieithu ar y pryd.

Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Trwy astudio gradd BA mewn Ieithoedd Modern, gelli ddewis rhwng un a thair iaith (Almaeneg/ Ffrangeg/Sbaeneg). Yn ogystal, mae ein llwybrau mewn astudiaethau diwylliannol, cyfieithu, ac addysgeg ail iaith yn cynnig hyblygrwydd o’r lefel uchaf gan dy alluogi i reoli ffocws dy astudiaethau drwy gydol dy amser gyda ni. Mae gan bob myfyriwr fynediad at ein Hystafell Cyfieithu ar y Pryd ar gyfer Cynadleddau, labordai iaith pwrpasol, ac archif cynhwysfawr o ffilmiau iaith dramor. Yn ogystal, cynhelir ‘caffis iaith’ wythnosol y tu allan i amser dosbarth ffurfiol lle y gelli gwrdd â myfyrwyr cyfnewid sy'n siaradwyr brodorol sy'n barod i siarad â ti yn yr ieithoedd rwyt ti’n eu hastudio. Gellir astudio Ffrangeg a Sbaeneg ar lefelau uwch (ôl-Safon Uwch) a rhagarweiniol. Ar hyn o bryd, dim ond ar lefel ragarweiniol y mae Almaeneg ar gael. Mae ein llwybr i ddechreuwyr yn addas i fyfyrwyr heb fawr o wybodaeth flaenorol o'r iaith honno os o gwbl.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i Ddiwylliant a Thraddodiadau Ieithyddol • Cysyniadau Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd • Ffilm Ewropeaidd Fodern: Themâu a Phersbectifau • Ieithoedd Modern: Cyflwyniad i Addysgu Iaith • Modiwlau Iaith i Ddechreuwyr/ Uwch Blwyddyn 2 • Addysgu Ieithoedd Modern Dramor i Ddysgwyr Ifanc • Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur • Dehongli Deialog • Modiwlau Iaith Canolradd/Uwch Blwyddyn 3 Byddi di’n treulio dy drydedd flwyddyn yn gweithio fel cynorthwyydd iaith mewn ysgolion ar raglen Cynorthwywyr y British Council neu astudio mewn prifysgol partner. Mae rhai myfyrwyr hefyd yn gwneud lleoliadau gwaith taledig neu'n gweithio fel gwirfoddolwyr ar raglenni cymeradwyo. Cei gyfle yn America Lladin ar gyfer myfyrwyr Sbaeneg. Blwyddyn 4 • Dehongli - Opsiwn Llywodraeth Leol • Iaith ar gyfer Dibenion Proffesiynol • Gweithdai Cyfieithu • Traethawd Hir Ieithoedd Modern

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BA Anrhydedd Sengl ♦ Ieithoedd Modern BA Prif Bwnc/Is-bwnc Anrhydedd ♦ C ysylltiadau Rhyngwladol (Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg) ♦ Ieithoedd Modern gydag Addysg BA Cydanrhydedd leithoedd Modern a ♦ Hanes (Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg) ♦ Llenyddiaeth Saesneg (Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg)

♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Addysgu • Busnes Byd-eang • Cyfieithu • Gwerthiannau Rhyngwladol • Marchnata mewn Sefydliadau Amlwladol

127

Made with FlippingBook Annual report maker