ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † RHAGOLYGON GRADDEDIGION (Complete University Guide 2021) ANSAWDD YMCHWIL (Complete University Guide 2022) 10 Y DU SAESNEG UCHAF YN Y DU 25 SAESNEG

LLENYDDIAETH SAESNEG CAMPWS PARC SINGLETON

Bydd astudio Llenyddiaeth Saesneg yn rhoi’r sgiliau i ddarllen ac ysgrifennu yn feirniadol ac yn greadigol, gan ymgysylltu â phynciau a syniadau pwerus a chyffredin. Cei gyfle i astudio dros fil o flynyddoedd o lenyddiaeth, o destunau Canol Saesneg i'r gwaith cyfredol sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr fawreddog Dylan Thomas. Gelli astudio llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang gan gynnwys cyfnodau canoloesol a’r Dadeni, ffuglen Gothig, llenyddiaeth y 19eg ganrif a thestunau modern, cyfoes a digidol.

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Rydyn yn cynnig cynnwys cwrs amrywiol a hyblyg, gelli lywio dy gwrs yn ôl dy ddiddordebau dy hun, boed hynny mewn ffuglen Gothig a phoblogaidd, rhywedd a diwylliant, llenyddiaeth y Dadeni, llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang, modernrwydd ac ysgrifennu cyfoes, llenyddiaeth y 19eg ganrif, neu ysgrifennu creadigol a phroffesiynol. Byddi di’n dysgu gan awduron profiadol a sefydledig y mae eu gwaith wedi cael ei gyhoeddi, ei ddarlledu a'i berfformio'n eang. Mae gennym gysylltiadau agos gyda diwydiannau creadigol, gelli gymryd rhan mewn prosiectau gyda Chanolfan Dylan Thomas a Theatr Genedlaethol Cymru. Gelli hefyd ymuno ag ymweliadau â theatrau, archifau ac amgueddfeydd cenedlaethol i ymgyfarwyddo ag amrywiaeth o amgylcheddau proffesiynol.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Angenfilod, Theorïau, Trawsnewidiadau • Byd y Ddrama Lwyfan • Dulliau o droi at Rywedd mewn Llenyddiaeth Saesneg • Hanfodion Saesneg • Ysgrifennu Creadigol: Genre Ffuglen Blwyddyn 2 • Archwilio’r Siambr Waedlyd: Canoloesol i Ôl-fodern • Chwyldro'r Gair: Moderniaeth • Ffilm Fodern Ewropeaidd • Rhannau o’r Undeb: Gwneud a Thorri Diwylliant Prydain • Shakespeare Dadleuol Blwyddyn 3 • Barddoniaeth yn yr Ugeinfed Ganrif • G wallgofrwydd, Anhwylder ac Iselder: Llenyddiaeth a Meddygaeth wrth Ddechreuad i Enomau • Modiwl Gwobr Dylan Thomas Rhyngwladol • Nofel Graffig • Pethau: Llenyddiaeth Fictorianaidd a Diwylliant Materol • Traethawd Hir – Llenyddiaeth Saesneg

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BA Anrhydedd Sengl ▲ ♦  Llenyddiaeth Saesneg ♦ L lenyddiaeth Saesneg

(gyda Blwyddyn Sylfaen) ▲ ♦  Saesneg gyda Rhywedd BA Cydanrhydedd Llenyddiaeth Saesneg a ♦ Almaeneg (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ ♦  Astudiaethau Americanaidd ▲   Cymraeg (Iaith Gyntaf) ▲  Cymraeg (Ail Iaith) ♦ Ffrangeg (gyda Blwyddyn Dramor) ▲ ♦  Gwleidyddiaeth ▲ ♦  Hanes ▲  Iaith Saesneg ▲ ♦ TESOL ▲ ♦  Gellir ymestyn cyrsiau 3 blynedd i 4 blynedd i gynnwys Blwyddyn Dramor

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Addysgu ac Addysg • Cyfathrebu a’r Cyfryngau • Cyhoeddi, Hysbysebu, Cysylltiadau Cyhoeddus • Darlledu a Newyddiaduraeth • Rheoli Llwyfan a’r Diwydiannau Creadigol

129

Made with FlippingBook Annual report maker