ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

ASTUDIAETHAU IECHYD (Complete University Guide 2022) YN Y DU 6 ED

IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL CAMPWS PARC SINGLETON

Ein cwrs gradd hyblyg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw'r man cychwyn delfrydol ar gyfer ystod o yrfaoedd gwobrwyol. Byddi di’n ymchwilio i iechyd a gofal cymdeithasol mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gwmpasu themâu sy'n cynnwys polisi cymdeithasol, iechyd y cyhoedd, seicoleg, bioleg ddynol a ffisioleg, y gyfraith a moeseg, cydraddoldeb, a chyfiawnder cymdeithasol, ac yn meithrin sgiliau cyfathrebu, ymchwilio a dadansoddi rhagorol.

Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Byddi di’n cael dy drwytho mewn amgylchedd ymchwil a dysgu dynamig sy'n cynnig llawer o gyfleoedd i ffurfio cysylltiadau â myfyrwyr o ddisgyblaethau cysylltiedig. Ochr yn ochr â'r gwaith academaidd, byddi di’n astudio modiwlau ym maes datblygu proffesiynol ac yn cael yr opsiwn i gwblhau lleoliad gwaith fel rhan o dy radd. Mae hyn yn rhan o'n dull cydweithredol mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol, sydd â'r nod o wella'r integreiddio rhwng y sectorau o dy baratoi ar gyfer gyrfa yn gweithio ar draws ffiniau sefydliadol a phroffesiynol traddodiadol.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Anatomeg Dynol, Ffisioleg a Phathoffisioleg • Cydraddoldeb, Gwahaniaethu a Gormes mewn Cymdeithas • Cyflwyniad i Ymchwil mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol • Datblygiad Academaidd a Phroffesiynol • Tlodi a Digonedd • Yr Unigolion a'r Gymdeithas Blwyddyn 2 • Cyfraith ac Ymarfer Iechyd • Diogelu ym Meysydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol • Gwerthuso Tystiolaeth Ymchwil mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol • Ymarfer Myfyriol a Gweithio gyda Phobl Blwyddyn 3 • Cwnsela a Chefnogi Pobl • Rheolaeth ac Arweinyddiaeth ym Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol • Safbwyntiau Byd-Eang a Gweithio mewn Byd sydd wedi'i Globaleiddio • Seicoleg a Hyrwyddo Lles • Y Gyfraith a Moeseg ym Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB-BBC Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Iechyd a Gofal Cymdeithasol ▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • GIG • Gwaith Cymdeithasol • Hybu Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd • Rheoli Gofal Iechyd • Sefydliadau Iechyd a Gofal

Cymdeithasol Preifat • Y Gwasanaeth Sifil

125

Made with FlippingBook Annual report maker