ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

HANES YR HENFYD A'R OESOEDD CANOL CAMPWS PARC SINGLETON

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael HANES BODDHAD CWRS (Guardian University Guide 2022) 10 UCHAF YN Y DU

Mae'r radd ryngddisgyblaethol eang ei chwmpas hon yn dy wahodd i archwilio mwy na 2,000 o flynyddoedd o hanes ledled Ewrop a byd y Môr Canol. Byddi’n astudio hanes gwleidyddol a chymdeithasol Hen Wlad Groeg a'r Hen Rufain, yn ogystal â themâu o ddechrau tan ddiwedd yr Oesoedd Canol. Gelli hefyd astudio ieithoedd hynafol a chanoloesol, yn benodol Groeg a Lladin.

Byddi’n archwilio parhad a newid o ddatblygiad democratiaeth Athenaidd i ogoniannau'r Eidal yn ystod cyfnod y dadeni, gan astudio pynciau’n amrywio o dwf yr Ymerodraeth Rufeinig i groesgadau'r Oesoedd Canol, ac o arwrgerddi mawr Homer i farddoniaeth aruchel Dante. Gan ddefnyddio ein harbenigedd helaeth ym maes hanes yr henfyd a'r oesoedd canol, byddi’n astudio gwareiddiadau a all ymddangos fel petaent yn perthyn i'r gorffennol pell ond sy'n dal i fod yn ddylanwadol heddiw. Byddi’n ymweld â safleoedd hanesyddol yn rheolaidd, a gelli addasu dy radd i gyd-fynd â dy ddiddordebau dy hun drwy ddewis o amrywiaeth o bynciau. FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Creu Hanes • Ewrop Ganoloesol: Cyflwyniad • Hanes a Chymdeithas Groeg • Metamorphoses Ovid: Trawsnewidiadau Mytholeg • O Dduwiau ac Arwyr - Mytholeg Groeg • Rhufain o Bentref i Ymerodraeth: Cyflwyniad i Hanes Rhufeinig

Blwyddyn 2 • Byddinoedd a Gelynion Rhufain Ymerodrol • Etifeddion Rhufain • Mythau a Chymdeithas ym Myd Gwlad Groeg • Prydain yn yr Oesoedd Canol Cynnar: Caethweision, Dreigiau, Breninesau a Llychlynwyr • Rhyw yn y Byd Rhufeinig • Y Byd Eingl-Normanaidd • Y Croesgadau a Gwneud Bedydd Lladin, 1050-1300 Blwyddyn 3 • Addoli, Duwioldeb a Grym: Y Groesgad Gyntaf a Bydau Cred Ladinaidd, Bysantiaeth a’r Dwyrain Agos Islamaidd • Bod yn Roeg: Hunaniaeth yn y Byd Groeg Hynafol • Brenhiniaeth: Hynafol a Chanoloesol • Gosod Hanes: Mapio'r Gorffennol Hanesyddol yn Ddigidol • Hanesion yr Ymerodraeth • Pompeii a Dinasoedd Vesuvius • Teyrnasiad y Brenin Ioan: Camlywodraethu a Magna Carta

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BA Anrhydedd Sengl ▲  Hanes yr Henfyd a'r Oesoedd Canol ♦ H anes yr Henfyd a'r Oesoedd Canol (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ H anes yr Henfyd (gyda Blwyddyn Sylfaen)

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Addysg • Busnes • Busnes a Rheolaeth • Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus • Treftadaeth ac Amgueddfeydd • Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus

123

Made with FlippingBook Annual report maker