ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

NEWYDDIADURAETH, Y CYFRYNGAU A CHYFATHREBU CAMPWS PARC SINGLETON

(Guardian University Guide 2022) BODDHAD CWRS ASTUDIAETHAU'R CYFRYNGAU A FFILM 1 YN Y DU AF

Yn ogystal â bod yn ddefnyddwyr gwybodaeth dorfol, mae graddedigion heddiw hefyd yn ei churadu ac yn ei chreu a'r dyddiau hyn, mae angen i ddarpar newyddiadurwyr ddatblygu eu brand personol eu hunain mewn marchnad or-lawn. Nod y rhaglen felly yw rhoi set sgiliau driphlyg i fyfyrwyr, sy'n cynnwys sgiliau dadansoddi, ymarferol a chyflogadwyedd, a fydd yn eu paratoi i fentro i'r farchnad swyddi graddedig â hyder.

Cyfleoedd Byd-eang ar gael †

Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Fel bodau dynol, rydyn yn treulio mwy o amser yn ymwneud â’r cyfryngau nag unrhyw weithgaredd arall. Dim ond cysgu sy'n cymryd mwy o'n hamser. Yn yr oes ddigidol, caiff y newyddion a'r cyfryngau traddodiadol eu hategu gan amrywiaeth enfawr o blatfformau ar-lein. Felly, ceir mwy o ddewis nag erioed o'r blaen ac nid yw'r ansawdd erioed wedi bod mor amrywiol. Yn oes "newyddion ffug" er enghraifft, mae'r gallu i wahaniaethu rhwng ffeithiau gwrthrychol a rhethreg amheus yn bwysicach nag erioed. Mae'r rhaglen yn cael ei harfarnu'n rheolaidd gan banel o gynrychiolwyr y diwydiant i sicrhau ei bod yn parhau ar flaen y gad wrth ddiwallu anghenion cyflogwyr a'r diwydiant. Bydd y cwrs yn cynnig cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai a seminarau dan arweiniad siaradwyr gwadd.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyflwyniad i Astudiaethau ffilm • Cyflwyniad i Gyfathrebu'r Cyfryngau • Cyflwyniad i Hanes y Cyfryngau • Cyflwyno a Datgodio'r Newyddion • Cysylltiadau Cyhoeddus: Cyfathrebu Strategol Blwyddyn 2 • Damcaniaethu’r Cyfryngau • Diwylliannau'r Cyfryngau Cymdeithasol • Hanes Animeiddio Sgrîn • Ymarfer Cysylltiadau Cyhoeddus Digidol • Ymchwilio i Destun, Proses a Chynulleidfaoedd Blwyddyn 3 • Adrodd yr 21ain Ganrif • Cynhyrchu Fideo • Gwneud Newyddiaduraeth Ddigidol • Paratoi ar gyfer y Traethawd Hir • Strategaeth, Marchnata a Brandio

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BA Anrhydedd Sengl ▲  Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Chyfathrebu ♦  Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Chyfathrebu (gyda Blwyddyn Dramor)

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Busnes • Cyhoeddi • Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau

• M archnata Digidol • Newyddiaduraeth • Teledu a Radio • Y Cyfryngau

136

Made with FlippingBook Annual report maker