ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

Dewisais astudio yn Abertawe gan ei fod yn bwysig i fi gael fy addysg yng Nghymru a dyma’r unig brifysgol i gynnig cwrs i raddedigion. Wrth ymweld ag Abertawe, roeddwn yn teimlo fel fy mod yn gael fy nghroesawu, yn rhan o deulu. Mae’r ffaith fod Abertawe yn 3ydd uchaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer cwrs feddygol yn fonws mawr iawn hefyd! Mae bod ar leoliad yn gyffrous ac yn fy atgoffa pam fy mod eisiau astudio’r cwrs a bod yn feddyg. Mae gwrando ar straeon cleifion yn fraint ac yn helpu gyda’r dysgu i wneud cyswllt rhwng y cyflwr meddygol a sut mae hyn yn effeithio ar bobl mewn bywyd go iawn. Roedd hi’n bwysig i fi i gymryd mantais o’r cyfle i astudio rhan o’r cwrs yn y Gymraeg a bues i’n ffodus i dderbyn ysgoloriaeth Academi Hywel Teifi ac Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dwi’n teimlo gymaint fwy cyfforddus yn mynegi fy hun yn y Gymraeg felly does dim syndod bod nifer o gleifion tra mewn sefyllfa anghyfarwydd o fod mewn poen neu yn yr ysbyty hefyd yn teimlo mwy cyfforddus yn siarad eu hiaith gyntaf. Mae bod yn lysgennad i’r Coleg Cymraeg wedi rhoi’r cyfle i fi gwrdd â myfyrwyr newydd ac i fynd o amgylch ysgolion Cymru i sôn am fy mhrofiadau, mae hefyd yn edrych yn grêt ar fy CV!

MEDDYGAETH I RADDEDIGION I ddysgu mwy am ein storïau myfyrwyr, gweler:

a bertawe.ac.uk/astudio/ein-storiau-myfyrwyr

135

Made with FlippingBook Annual report maker