ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

GWYDDOR ACTIWARAIDD CAMPWS Y BAE Safon Uwch neu gyfwerth: CCD (gan gynnwys Mathemateg Safon Uwch) TGAU: Dylai fod gan ymgeiswyr na wnaeth astudio Mathemateg ar UG neu Safon Uwch radd BBC a gradd B ar gyfer TGAU Mathemateg.

FFERYLLIAETH CAMPWS SINGLETON Safon Uwch neu gyfwerth: BCC-CDD gan gynnwys Cemeg ac un pwnc STEM arall. Os nad wyt ti'n meddu ar y pynciau gwyddoniaeth, cysyllta â ni i drafod mynediad. TGAU: Cymraeg/Saesneg a Mathemateg gradd C (4) o leiaf

FFISEG CAMPWS SINGLETON Safon Uwch neu gyfwerth: CCD gan gynnwys Ffiseg a Mathemateg TGAU: Cymraeg/Saesneg a Mathemateg gradd C o leiaf

Mae’r Flwyddyn Sylfaen Integredig hon yn addas os nad wyt yn meddu ar y cymwysterau perthnasol ar gyfer dechrau ar y cynllun gradd BSc tair blynedd. Byddi di’n derbyn seilwaith cadarn ym maes mathemateg, cyfrifyddu, cyllid, ac economeg sy’n berthnasol i yrfaoedd mewn swydd broffesiynol actiwaraidd. FEL ARFER MAE’R MODIWLAU SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Biowyddorau, Cemeg, Cyfrifiadureg, Daearyddiaeth, Ffiseg, Gwyddor Actiwaraidd, Mathemateg a Pheirianneg DILYNIANT I’RRHAGLENNI GRADDBScANRHYDEDDSENGL CANLYNOL*: • Gwyddor Actiwaraidd • Mathemateg

Mae'r Flwyddyn Sylfaen Integredig hon yn addas os nad oes gen ti'r cymwysterau perthnasol i ddechrau'n syth ar y cwrs tair blynedd. Mae'n dy baratoi ar gyfer gofynion llym y BSc â blwyddyn sylfaen a ddatblygwyd i ehangu dy gymwyseddau craidd mewn Ffiseg a Mathemateg. Mae'r newid i'r rhaglen BSc yn ddi-dor ar ddiwedd y flwyddyn. FEL ARFER MAE’R MODIWLAU SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Ffiseg Thermol ac Opteg, Mathemateg Sylfaen i Ffisegwyr, Mecaneg, Tonnau, Trydan a Magneteg DILYNIANT I’R RHAGLENNI GRADD BSc ANRHYDEDD SENGL CANLYNOL*: • Ffiseg • Ffiseg Ddamcaniaethol • Ffiseg gyda Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg Os yw dy raddau'n ddigonol ar ddiwedd blwyddyn 2, fe fyddi di'n cael dy wahodd i symud ymlaen i'r rhaglen MPhys.

Bydd y Flwyddyn Sylfaen Integredig hon yn dy helpu i ddatblygu sgiliau allweddol a sylfaen gadarn mewn hanfodion cemeg fiolegol ac organig, bioleg foleciwlaidd ac ymarfer fferylliaeth. Mae'n ddelfrydol os oes gen ti ddiddordeb ym mhroffesiwn fferylliaeth ond nid oes gen ti'r cymwysterau mynediad gofynnol i ymuno â'n rhaglenni MPharm neu os wyt yn fyfyriwr aeddfed sy'n dychwelyd i addysg. FEL ARFER MAE’R MODIWLAU SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Bioleg Foleciwlaidd, Celloedd Dynol, Cemeg Fiolegol, Cemeg Organig, Metaboledd a Homeostatis, Microbioleg ac Afiechyd, Ymarfer Fferylliaeth DILYNIANT I’RRHAGLENGRADD CANLYNOL*: • MPharm Fferylliaeth (*mae angen ennill marc cyffredinol o 60% neu uwch ynghyd â 60% mewn Hanfodion Cemeg Organig a Sylfeini Fferylliaeth i symud ymlaen i Flwyddyn 1 o’r Flwyddyn Sylfaen) CYN-GOFRESTRU: Mae angen i ddeiliaid graddau MPharm gymryd camau pellach cyn iddynt gael cofrestru fel fferyllydd gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol. Mae rhagor o fanylion am gofrestru ar gael ar dudalen 96 ac ar: p harmacyregulation.org/registration

61

Made with FlippingBook Annual report maker