ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

GWYDDOR GOFAL IECHYD (PEIRIANNEG ADSEFYDLU) CAMPWS PARC SINGLETON

(Complete University Guide 2022) ASTUDIAETHAU IECHYD 6 YN Y DU ED

Bydd y cwrs hwn yn rhoi i ti'r hyfforddiant arbenigol y bydd ei angen arnat er mwyn dechrau gyrfa wobrwyol, uchel ei sgiliau, yn y proffesiwn gofal iechyd fel peiriannydd adsefydlu. Mae'r cwrs yn cyfuno gwaith academaidd manwl â chymwysiadau clinigol ymarferol yn ein cyfleusterau o'r radd flaenaf, a bydd yn meithrin dy sgiliau gwaith a dy sgiliau technolegol mewn ystod o leoliadau gofal iechyd arbenigol.

DIM FFIOEDD DYSGU: Myfyrwyr yDU** Gwna gais am becyn cymorth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. (**amodau yn berthnasol) abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael

Mae Peirianneg Adsefydlu yn faes cyffrous a heriol sy'n datblygu drwy'r amser ac yn gofyn am lefel uchel o gyfrifoldeb a sgìl dechnegol. Fel peiriannydd adsefydlu, byddi di’n gweithio fel rhan o dîm adsefydlu gan gynnwys prostheteg ac orthotyddion, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol yn ogystal â chleifion a chlinigau mewn gwasanaethau acíwt a gwasanaethau cymunedol. Byddi di’n dysgu am gymhwyso egwyddorion peirianneg er mwyn datblygu atebion a dyfeisiau technolegol er mwyn cynorthwyo unigolion sydd ag anableddau a chyflyrau hirdymor. Mae hyn yn cynnwys dylunio, adeiladu a phrofi ystod o dechnolegau cynorthwyol, gan gynnwys cadeiriau olwyn, aelodau artiffisial, cymorth robotig a seddau arbenigol. Byddi di'n dysgu i adeiladu dyfeisiau safonol a phwrpasol, yn ogystal â dysgu am eu pwysigrwydd wrth chwyldroi gofal ac annibyniaeth cleifion.

FEL ARFER MAE'R MODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Anatomeg a Ffisioleg • Mathemateg a Ffiseg ar gyfer Gwyddor Gofal Iechyd • Hysbyseg ac Ystadegau • Pathoffisioleg • Sail Wyddonol Meddygaeth Blwyddyn 2 • Arloesedd a Dyfeisiau Meddygol • Cylch Bywyd Cyfarpar Meddygol • Dulliau Ymchwil ac Ystadegau • Mecaneg Hylifol, Biofecaneg a Deunyddiau • Offeryniaeth Prosesu Signalau a Delweddu Blwyddyn 3 • Gwyddoniaeth ac Egwyddorion sy'n Cefnogi Peirianneg Adsefydlu • Peirianneg Adsefydlu yn yr Amgylchedd Clinigol • Prosiect Ymchwil • Ymarfer Proffesiynol Peirianneg Feddygol

Cynigion Cyd-destunol ar gael

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB (gan gynnwys un pwnc STEM (Bioleg, Ffiseg, Cemeg, Mathemateg neu Beirianneg)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Adsefydlu)

▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer Gwyddonwyr Gofal Iechyd yw oddeutu £25,654, a fydd yn codi i £45,838. Gall graddedigion ddisgwyl cael gyrfa ym maes: • Cadeiriau olwyn a seddau • Dadansoddi symud clinigol • Prostheteg ac orthoteg • Technoleg gynorthwyol electronig • Teleiechyd a theleofal

Darllen ein canllaw pwnc yma:

Mae achrediadau'n cynnwys:

117

Made with FlippingBook Annual report maker