ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

GWYDDOR GOFAL IECHYD (PEIRIANNEG FEDDYGOL) CAMPWS PARC SINGLETON

(Complete University Guide 2022) ASTUDIAETHAU IECHYD 6 YN Y DU ED

Bydd y cwrs hwn yn rhoi i ti'r hyfforddiant arbenigol y bydd ei angen arnat er mwyn dechrau gyrfa wobrwyol, uchel ei sgiliau, yn gweithio yn y proffesiwn gofal iechyd fel peiriannydd meddygol. Byddi di’n dysgu am gylch bywyd offer meddygol, gan gynnwys profi derbyn offer newydd, cyflwyno offer a dyfeisiau i wasanaeth, cynghori ar ddefnyddio offer yn gywir, mynd i'r afael â materion diogelwch cleifion a chael gwared ar hen ddyfeisiau’n ddiogel.

DIM FFIOEDD DYSGU: Myfyrwyr yDU** Gwna gais am becyn cymorth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. (**amodau yn berthnasol) abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael

Mae Peirianneg Feddygol yn rôl gyffrous ac amrywiol lle byddi di’n defnyddio dy arbenigedd mewn peirianneg electronig neu fecanyddol ac efallai gymryd rhan wrth addasu neu adeiladu offer hefyd. Mae'n faes cyffrous sy'n datblygu'n barhaus, sy'n gofyn am lefel uchel o gyfrifoldeb a sgìl dechnegol. Mae llawer o'n staff academaidd yn gweithio fel gwyddonwyr gofal iechyd hefyd, gan gynnig cyfuniad heb ei ail o drylwyredd gwyddonol ac arbenigedd proffesiynol. Mae ein cyfleusterau ardderchog yn cynnwys ystafell glinigol realistig sy'n dy alluogi i roi dy wybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu'r amodau gwirioneddol y byddi di’n eu hwynebu pan fyddi di’n mynd ar leoliad. Fel myfyriwr Peirianneg Feddygol, bydd tua hanner dy gwrs yn cael ei wario ar leoliadau gwaith clinigol ledled Cymru, a fydd yn rhoi'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arat i ddechrau dy yrfa.

FEL ARFER MAE'R MODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Anatomeg a Ffisioleg • Mathemateg a Ffiseg ar gyfer Gwyddor Gofal Iechyd • Hysbyseg ac Ystadegau • Pathoffisioleg • Sail Wyddonol Peirianneg Blwyddyn 2 • Arloesedd a Dyfeisiau Meddygol • Cylch Bywyd Cyfarpar Meddygol • Dulliau Ymchwil ac Ystadegau • Mecaneg Hylifol, Biofecaneg a Deunyddiau • Offeryniaeth Prosesu Signalau a Delweddu Blwyddyn 3 • Gwyddoniaeth ac Egwyddorion sy'n cefnogi Peirianneg Feddygol • Peirianneg Feddygol yn yr Amgylchedd Clinigol • Prosiect Ymchwil • Ymarfer Proffesiynol

Cynigion Cyd-destunol ar gael

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB (gan gynnwys Ffiseg neu Fathemateg)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Feddygol)

▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer Peirianwyr Meddygol yw oddeutu £25,654 (Band 5). Yn ystod gyrfa, gall y cyflog godi i £45,838. Hefyd, ceir llawer o gyfleoedd i ymgymryd ag astudiaeth bellach hyd at lefel meistr a doethuriaeth, a gweithio ym maes ymchwil, addysg, rheoli, a'r sector preifat.

Darllen ein canllaw pwnc yma:

Mae achrediadau'n cynnwys:

118

Made with FlippingBook Annual report maker